Cymru Ymlaen
Blaid wleidyddol yng Nghymru oedd Cymru Ymlaen. Esblygodd o Blaid Annibynnol John Marek, a sefydlwyd gan y cyn-aelod Llafur Wrecsam yn y Cynulliad.
Cymru Ymlaen | |
---|---|
Arweinydd | John Marek |
Sefydlwyd | 8 Tachwedd, 2003; Diddymu: 2010 |
Pencadlys | Dim (wedi diddymu) |
Ideoleg Wleidyddol | Sosialaeth, Rhyngwladoliaeth Gymreig |
Safbwynt Gwleidyddol | Chwith |
Tadogaeth Ryngwladol | dim |
Tadogaeth Ewropeaidd | dim |
Grŵp Senedd Ewrop | dim |
Lliwiau | Coch a Gwyn |
Gwefan | Archif |
Gwelwch hefyd | Gwleidyddiaeth y DU |
Ar 8 Tachwedd 2003 ailenwyd y blaid yn Cymru Ymlaen. Roeddynt yn arddel polisïau sosialaidd yng Nghymru fel dewis amgen i'r Blaid Lafur, a oedd yn cael ei weld wedi pellhau oddi wrth sosialaeth.
Ymunodd cyn-aelod Llafur o'r Cynulliad a chyn- ysgrifennydd gwladol Cymru, Ron Davies, â'r blaid ond collodd ei ernes pan ymladdodd Etholiad Ewropeaidd 2004 ar ran y blaid.
Gadawodd nifer o aelodau y blaid yn ystod haf 2005, gan gynnwys y cynghorydd Dave Bithell a'r ysgrifennydd cyffredinol, oherwydd eu bod yn teimlo nad oedd y blaid yn ddigon radical. Diddymwyd y blaid yn 2010.
Dolenni allanol
golygu- (Saesneg) Archif y Wefan swyddogol