Ron Davies

gwleidydd (1946- )
Erthygl am wleidydd yw hon. Am y ffotograffydd, gweler Ron Davies (ffotograffydd).

Gwleidydd Cymreig yw Ron Davies (ganwyd 6 Awst 1946). Caiff ei adnabod yn bennaf fel 'pensaer datganoli' gan mai ef, fel Ysgrifennydd Gwladol Cymru ar y pryd yn Llywodraeth Lafur newydd Tony Blair, a lywiodd Deddf Llywodraeth Cymru 1998 drwy Dŷ'r Cyffredin ar ôl i bobl Cymru bleidleisio o blaid datganoli mewn refferendwm ym 1997. Ef hefyd ddywedodd mai "proses yw datganoli, nid digwyddiad": roedd o'r farn ym 1997 wrth i Gymru bleidleisio dros Gynulliad y byddai angen cyfres o ddeddfau er mwyn trosglwyddo grymoedd i Gymru dros gyfnod o amser, ac na fyddai'r Cynulliad fel yr oedd ar y pryd yn ddigonol yn yr hirdymor.

Ron Davies
Ron Davies


Ysgrifennydd Gwladol Cymru
Cyfnod yn y swydd
3 Mai 1997 – 27 Hydref 1998
Rhagflaenydd William Hague
Olynydd Alun Michael

Cyfnod yn y swydd
1983 – 2001

Cyfnod yn y swydd
6 Mai 1999 – 3 Mai 2003

Geni (1946-08-06) 6 Awst 1946 (77 oed)
Machen, Cwm Rhymni
Plaid wleidyddol Plaid Cymru
Tadogaethau
gwleidyddol
eraill
Annibynnol (2003–2009)
Y Blaid Lafur (DU) (hyd 2003)
Alma mater Polytechnig Portsmouth

Cefndir golygu

Fe'i ganed ym Machen yng Nghwm Rhymni, a'i addysgu yn Ysgol Ramadeg Basaleg cyn mynd i Bolytechig Portsmouth (Prifysgol Portsmouth bellach) i wneud gradd mewn Daearyddiaeth.

Fe'i hetholwyd fel Cynghorydd yng Nghyngor Dosbarth Trefol Machen ym 1969, ag yntau'n ddim ond tair ar hugain oed. Flwyddyn yn ddiweddarach fe'i hetholwyd yn arweinydd y Cyngor, yr arweinydd cyngor ieuengaf ym Mhrydain ar y pryd. Gydag ad-drefnu llywodraeth leol ym 1974, parhaodd fel arweinydd y cyngor newydd, Cyngor Dosbarth Cwm Rhymni, pan arweiniodd ymgyrch dros Ddeddf Rhenti Teg yn erbyn cynlluniau Llywodraeth Geidwadol Edward Heath i godi mwy o rent ar denantiaid tai cyngor.

Ar ôl hyfforddi i fod yn athro ym Mhrifysgol Caerdydd treuliodd ddwy flynedd fel athro ysgol cyn mynd yn Diwtor-Drefnydd ar gyfer Cymdeithas Addysg y Gweithwyr ym 1970, gan olynu Neil Kinnock a oedd newydd ei ethol i'r Senedd yn Llundain. Yn ddiweddarach bu'n Gynghorwr Addysg Bellach i Awdurdod Addysg Morgannwg Ganol, cyn iddo yntau gael ei ethol i'r Senedd fel Aelod Seneddol Llafur dros Gaerffili ym 1983.

Tŷ'r Cyffredin golygu

Ar ôl dwy flynedd fel meinciwr cefn, penodwyd Ron Davies yn Chwip yr Wrthblaid gyda chyfrifoldeb am amaeth a'r amgylchedd. Ym 1987 fe'i penodwyd i'r fainc flaen fel llefarydd ar Addysg a Materion Gwledig, lle bu'n gyfrifol am adolygu polisi'r Blaid Lafur ar les anifeiliaid.

Fe'i penodwyd yn Brif Lefarydd yr Wrthblaid ar amaeth ym mis Gorffennaf 1992, a gwnaeth lawer ar y pryd i dynnu sylw at fygythiad BSE cyn i'r achosion gyrraedd y newyddion. Ym mis Hydref 1992, fe'i penodwyd yn Lefarydd yr Wrthblaid ar Faterion Cymreig gan John Smith.

Fel prif lefarydd y Blaid Lafur ar Gymru rhwng 1992 a 1993, Ron Davies a ddatblygodd bolisi datganoli'r blaid. Llwyddodd i gael cefnogaeth i'r syniad o Gynulliad a chanddo drigain o aelodau wedi'u hethol yn rhannol drwy gynrychiolaeth gyfrannol i gyflawni swyddogaethau Ysgrifennydd Gwladol Cymru ar y pryd. Roedd wedi ymgyrchu yn fewnol am gorff mwy grymus ond methodd â darbwyllo'i blaid.

Ysgrifennydd Gwladol Cymru golygu

Yn dilyn yr Etholiad Cyffredinol ym mis Mai 1997 pan enillodd y Blaid Lafur bleidlais enfawr ar ôl deunaw mlynedd fel gwrthblaid, penodwyd Ron Davies i'r Cyfrin Gyngor ac i Gabinet Llywodraeth Prydain fel Ysgrifennydd Gwladol Cymru. Un o'i weithredoedd cyntaf oedd dychwelyd £150,000 i gronfa Trychineb Aberfan, yr oedd Llywodraeth Lafur flaenorol wedi ei gymryd er mwyn adfer y safle ar ôl y drychineb ym 1966; roedd hyn yn ddadleuol, fodd bynnag, gan fod £150,000 yn werth llawer llai ym 1997 nag ydoedd ym 1966.

Ym mis Gorffennaf 1997, cyhoeddodd gynigion manwl y Llywodraeth ar ddatganoli ym mhapur gwyn "Llais dros Gymru", ac arweiniodd ymgyrch lwyddiannus y Blaid Lafur am ymgyrch 'ie' yn y refferendwm dros ddatganoli, ar 18 Medi 1997. Dim ond o drwch y blewyn y cafwyd pleidlais o blaid datganoli, ond roedd yr ymgyrch "Ie dros Gymru" wedi llwyddo i newid y farn gyhoeddus yng Nghymru yn syfrdanol o ystyried i Refferendwm 1979 weld pleidlais o bedair i un yn erbyn datganoli, a fu'n ergyd i'r ymgyrch am elfen o hunan-reolaeth i Gymru am y rhan orau o genhedlaeth.

Yn dilyn y bleidlais llywiodd Ron Davies Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 drwy Dŷ'r Cyffredin; dyma'r ddeddf fyddai'n arwain at agor Cynulliad Cenedlaethol Cymru y flwyddyn ganlynol. Am y rheswm hynny y galwyd ef yn "bensaer datganoli". Fe'i urddwyd i'r wisg wen yng Ngorsedd y Beirdd, yn Eisteddfod Bro Ogwr 1998; ei enw barddol yw Ron o Fachen.

Ymddiswyddiad golygu

Ar 19 Medi 1998, curodd Rhodri Morgan yn y ras i ddod yn ymgeisydd y Blaid Lafur i fod yn Brif Ysgrifennydd y Cynulliad, yng Nghynhadledd arbennig y blaid yng Nghasnewydd. Ychydig dros fis yn ddiweddarach, ar 29 Hydref 1998, ymddiswyddodd o'r ymgeisyddiaeth honno, ddau ddiwrnod ar ôl ymddiswyddo fel Ysgrifennydd Gwladol Cymru ar 27 Hydref 1998. Safodd i lawr gan feio "cam gwag" a wnaeth pan gytunodd i fynd am fwyd gyda dyn nad oedd yn ei adnabod pan gwrddodd ef ar Gomin Clapham yn Llundain, lle sy'n adnabyddus fel man cyfarfod i ddynion hoyw. Mygiodd y dyn ef gyda chyllell. Nid yw holl fanylion y digwyddiad yn wybodaeth gyhoeddus, ond wrth ymddiswyddo, galwodd y digwyddiad yn "foment gwallgofrwydd", a hynny, mae'n debyg ar gyngor Alastair Campbell, Cyfarwyddwr Cyfathrebu Tony Blair. Yn ddiweddarach cyhoeddodd ei fod yn ddeurywiol a bod ganddo anhwylder personoliaeth a oedd yn peri iddo chwilio am sefyllfaoedd o risg. Bu'n rhaid i'r Blaid Lafur redeg ail frwydr i ganfod ymgeisydd i fod yn Brif Ysgrifennydd y Cynulliad, pan enillodd Alun Michael, a ddaeth yn Brif Ysgrifennydd cyntaf y Cynulliad yr haf canlynol.

Y Cynulliad golygu

Ym mis Ionawr 1999, dewiswyd Ron Davies i fod yn ymgeisydd y blaid Lafur ar gyfer Caerffili yn etholiadau'r Cynulliad, ac fe'i hetholwyd ar 6 Mai 1999. Gwrthododd Alun Michael ei benodi i'r Cabinet, ond bu'n cadeirio'r Pwyllgor Datblygu Economaidd am gyfnod, cyn iddo ymddiswyddo o'r gadair yn dilyn sawl anghytundeb gydag arweinyddiaeth y blaid Lafur yn y Cynulliad.

Fel sawl Aelod Cynulliad arall a fu'n Aelodau Seneddol cyn sefydlu'r Cynulliad (ac a fu felly yn Aelodau Seneddol ac yn Aelodau Cynulliad ar yr un pryd am gyfnod), safodd i lawr o Senedd Llundain yn etholiad cyffredinol 2001. Roedd yn fwriad ganddo aros fel Aelod Cynulliad, ond ychydig cyn etholiadau'r cynulliad yn 2003, cyhoeddodd y Sun ei fod wedi bod yn treulio amser mewn llecyn a oedd yn adnabyddus fel ardal rhywchwilio (cruising). Honnodd mai edrych ar foch daear yr oedd, ond fe'i gorfodwyd i sefyll i lawr fel ymgeisydd y blaid Lafur yn yr etholiad.

Heddiw golygu

Ymddiswyddodd o'r Blaid Lafur yn 2003, gan restru Rhyfel Irac, safbwynt y blaid ar gyllido prifysgolion, a phryder cyffredinol am allu'r Blaid Lafur yng Nghymru, fel rhesymau. Bu'n aelod o blaid Cymru Ymlaen, gan sefyll drostynt mewn rhai etholiadau. Daeth yn Gynghorydd Annibynnol ar Gyngor Caerffili, a bu'n cefnogi grŵp Plaid Cymru, a oedd mewn grym.

Yn dilyn ei bresenoldeb yng Nghynhadledd Plaid Cymru yn 2009, awgrymwyd y gallai ymaelodi â'r blaid. Dyna y gwnaeth, bu'n flaengar yn ymgyrch Plaid Cymru ar gyfer Etholiad Cyffredinol y Deyrnas Unedig, 2010. Bu hefyd yn ymgeisydd Plaid Cymru ar gyfer etholaeth Caerffili yn Etholiad Cynulliad Cenedlaethol Cymru, 2011, ond ni lwyddodd i ennill y sedd.

Dolenni allanol golygu

Senedd y Deyrnas Unedig
Rhagflaenydd:
Ednyfed Hudson Davies
Aelod Seneddol dros Gaerffili
19832001
Olynydd:
Wayne David
Swyddi gwleidyddol
Rhagflaenydd:
William Hague
Ysgrifennydd Gwladol Cymru
3 Mai 199727 Hydref 1998
Olynydd:
Alun Michael
Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Rhagflaenydd:
swydd newydd
Aelod Cynulliad dros Gaerffili
19992003
Olynydd:
Jeffrey Cuthbert