Y Gymuned Ewropeaidd

Sefydlwyd y Gymuned Ewropeaidd (CE) yn wreiddiol ar 25 Mawrth 1957, pan lofnodwyd Cytundeb Rhufain, dan enw'r Gymuned Economaidd Ewropeaidd (CEE).

Y Gymuned Ewropeaidd
Enghraifft o'r canlynolsefydliad Edit this on Wikidata
Daeth i ben1993 Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu1 Ionawr 1958 Edit this on Wikidata
Olynwyd ganEuropean Community, yr Undeb Ewropeaidd Edit this on Wikidata
Yn cynnwysmarchnad gyffredin y Gymuned Economaidd Ewropeaidd Edit this on Wikidata
Olynyddyr Undeb Ewropeaidd Edit this on Wikidata
PencadlysBrwsel Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

O'r tair cymuned wreiddiol (y Gymuned Economaidd Ewropeaidd, y Gymuned Ewropeaidd Glo a Dur a'r Gymuned Ewropeaidd Ynni Atomig), daeth y CEE yn fuan yn fwyaf pwysig, ac ychwanegodd y cytundebau dilynol feysydd pellach o gymhwysedd, yn ymestyn y tu hwnt i'r maes economaidd yn unig. Arhosodd y ddwy gymuned arall yn gyfyngedig dros ben. Ym 1967, cyfunwyd sefydliadau'r tair cymuned gan y Cytundeb Cyfuno. Peidiodd y CEGD â bodoli pan ddibennodd Cytundeb Paris, oedd wedi'i sefydlu, yn 2002. Ystyrid bod y cytundeb yn ddiangen, a daeth glo a dur yn ddarostyngedig i Gytundeb y CE.

Pan ddaeth Cytundeb Maastricht i rym yn Nhachwedd 1993, ailenwyd y Gymuned Economaidd Ewropeaidd yn Gymuned Ewropeaidd. Daeth y Gymuned Ewropeaidd, ynghyd â'r CEGD ac Euratom, yn biler cyntaf yr Undeb Ewropeaidd sy'n bodoli heddiw.

Gweler hefyd golygu

Llinell amser golygu

Cytundebau, strwythur a hanes yr Undeb Ewropeaidd
1951/1952 1957/1958 1965/1967 1992/1993 1997/1999 2001/2003 2007/2009 (?)
U N D E B   E W R O P E A I D D   ( U E )
Cymuned Ewropeaidd Glo a Dur (CEGD)
Cymuned Economaidd Ewropeaidd (CEE) Cymuned Ewropeaidd (CE)
Cymuned Ewropeaidd Ynni Atomig (Euratom)
Tair Cymuned Ewropeaidd: CEGD, CEE ac Euratom Cyfiawnder a Materion Cartref  
Heddlu a Chydweithrediad Cyfreithiol
mewn Materion Trosedd
Polisi Tramor a Diogelwch Cyffredin (PTDC)
Cytundeb Paris Cytundebau Rhufain Cytundeb Cyfuno Cytundeb Maastricht Cytundeb Amsterdam Cytundeb Nice Cytundeb Lisbon

"Tri philer yr Undeb Ewropeaidd"
(y Cymunedau Ewropeaidd, y PTDC, a Heddlu a Chydweithrediad Cyfreithiol)