Refferendwm y Deyrnas Unedig ar aelodaeth o'r Undeb Ewropeaidd, 2016
Yn dilyn pasio yn Senedd y Deyrnas Unedig (DU) 'Ddeddf Refferendwm yr Undeb Ewropeaidd' (UE), (European Union Referendum Act 2015) cynhaliwyd Refferendwm y Deyrnas Unedig ar aelodaeth o'r Undeb Ewropeaidd, 2016 neu Brexit (British Exit) ar 23 Mehefin 2016, a oedd yn cynnwys gwledydd y DU a Gibraltar. Pwrpas y refferendwm oedd caffael barn dinasyddion y DU a Gibraltar ar aelodaeth y DU o fewn y Gymuned Ewropeaidd. Canlyniad y refferendwm oedd gadael Ewrop, gyda 17,410,742 (51.89%) o bleidleisiau'n cael eu bwrw dros adael ac 16,141,241 (48.11%) dros aros. Roedd y nifer a bleidleisiodd yn gymharol uchel: 72.21%. O fewn awr neu ddwy i'r holl ganlyniadau gael eu cyhoeddi dywedodd y Prif Weinidog David Cameron y byddai'n ymddiswyddo ar ôl "sadio a llonyddu'r cwch", ac y bwriada adael ei swydd cyn Hydref 2016.
Refferendwm y Deyrnas Unedig ar aelodaeth o'r Undeb Ewropeaidd Dydd Iau, 23 Mehefin 2016 | ||||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
A ddylai'r Deyrnas Unedig aros yn aelod o’r Undeb Ewropeaidd neu adael yr Undeb Ewropeaidd? | ||||||||||||||||||||||||||||
Location | Y Deyrnas Unedig a Gibraltar | |||||||||||||||||||||||||||
Date | 23 Mehefin 2016 | |||||||||||||||||||||||||||
| ||||||||||||||||||||||||||||
|
Gorfodwyd y Prif weinidog David Cameron i gynnal refferendwm gan fwrlwm cyn-etholiadol UKIP yng ngwanwyn 2015, pan cyhoeddodd sawl pôl piniwn y byddai UKIP - sydd ag un nod yn unig, sef gadael yr UE - yn llwyddo i ddwyn seddi nifer o Aelodau Seneddol y Blaid Geidwadol yn Etholiad cyffredinol y Deyrnas Unedig, 2015. Fodd bynnag, canlyniad siomedig a gafodd UKIP: un AS (Mark Reckless), ond daliodd Cameron at ei air a threfnwyd Refferendwm yn goelbren democrataidd.
Yr unig gwestiwn a ofynwyd ar y papur pleidleisio oedd:
- A ddylai'r Deyrnas Unedig aros yn aelod o’r Undeb Ewropeaidd neu adael yr Undeb Ewropeaidd?
a'r unig ddau ddewis a roddwyd oedd:
Canlyniad y bleidlais
golyguGwlad / Ardal | % |
---|---|
Yr Alban | 62.0
|
Llundain | 59.9
|
Gogledd Iwerddon | 55.7
|
Cymru | 47.5
|
Lloegr | 46.6
|
Adladd gwleidyddol ac ariannol i'r canlyniad
golyguAriannol
golyguWedi i lond dwrn o ganlyniadau ddod i'r fei, disgynodd gwerth y bunt yn erbyn y ddoler oddeutu 9%. O fewn deg munud i'r farchnad stoc agor ar ddiwrnod canlyniad y Refferendwm, gwelwyd gwerth £137bn yn cael ei ddileu a disgynodd FTSE 250 11.7%. Disgynodd gwerth cyfraddau banciau a chwmniau tai yn fwy na siars eraill, ac ym mhlith y gwaethaf roedd: Taylor Wimpey (-42%), Persimmon (-40%), RBS (-34%), IAG (-33%), Barclays (-29%) a Lloyds (-29%).[2]
Erbyn Hydref 2016 roedd gwerth y bunt yn erbyn y ddoler wedi gostwng ei werth i'r gwerth lleiaf am dros 130 o flynyddoedd.
Gwleidyddion y byd
golyguUn o'r cyntaf i wneud sylw oedd Jean-Marie Le Pen, arweinydd Ffrynt Cenedlaethol Ffrainc, a gymharodd canlyniad y Refferendwm i "wal Berlin yn cwympo".[3] Mynegodd Prif Weinidog Y Weriniaeth Tsiec, Bohuslav Sobotka, y bydd ei wlad yntau, o ganlyniad i hyn, yn cynnal Refferendwm debyg.[4]
Rhybuddiodd Gweinidog Tramor Sbaen, José García-Margallo, y bydd Sbaen yn hawlio Gibraltar yn ôl i'w corlan pe bai'r DU yn gadael yr UE.[5]
Y gwledydd Celtaidd
golyguPleidleisiodd yr Alban a Gogledd Iwerddon dros aros. Ddwy flynedd ynghynt, yn dilyn Refferendwm annibyniaeth i'r Alban, 2014, mynegodd arweinyddion yr SNP, Alex Salmond a Nicola Sturgeon, y byddai pobl yr Alban yn mynnu ail Refferendwm ar Annibyniaeth, pe bai Lloegr a Chymru yn pleidleisio i adael yr UE a'r Alban dros aros. Ar fore diwrnod y canlyniad, cyhoeddodd Sturgeon fod ail Refferendwm yn gwbwl debygol. Yng Ngogledd Iwerddon, galwodd arweinydd Sinn Fein, Gerry Adams, hefyd am Refferedwm dros Annibyniaeth. Ym Mai 2016, cyn y Refferendwm, rhybuddiodd Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, "y gallai gadael Ewrop chwalu'r DU".[6] Ar ddiwrnod cyhoeddi canlyniad y Refferendwm, dywedodd: "Rwyf yn hynod siomedig gyda'r canlyniad. Dyma refferendwm na ddylai, yn fy marn i, fod wedi digwydd, nid oherwydd fy mod yn gwrthwynebu'r penderfyniad democrataidd a gymerwyd heddiw, ond oherwydd ei amseriad mor fuan ar ôl etholiadau'r cynulliad. Roeddwn yn teimlo nad oedd y ddadl hon am yr UE mewn gwirionedd."[7]
Cymru
golyguFe bleidleisiodd 854,572 (52.5%) o drigolion Cymru o blaid gadael yr UE, o'i gymharu â 772,347 (47.5%) a oedd am aros. Er gwaethaf galwad y Blaid Lafur, mae nifer o ardaloedd traddodiadol Llafur fel Caerffili, Merthyr Tudful, Blaenau Gwent, Casnewydd ac Abertawe wedi pleidleisio i anwybyddu'r alwad honno, gan droi eu cefn ar Ewrop. Allan o 22 awdurdod lleol, 5 yn unig a bleidleisiodd dros aros o fewn Ewrop: Gwynedd, Ceredigion, Bro Morgannwg, Sir Fynwy a Chaerdydd.
Yn ôl Emyr Lewis, cyfreithiwr sy'n arbenigo ar gyfraith Ewrop, "O ran Cymru yn benodol, bydd tipyn o waith cymhleth a manwl i'w wneud i ystyried sut y bydd yr ariannu Ewropeaidd cyfredol (sydd i fod i bara nes 2020) yn cael ei drin. A fydd yn cael ei gwtogi, neu hyd yn oed ei ddiddymu? A fydd yr Undeb yn caniatáu i Lywodraeth Cymru ddod i gytundeb dros Gymru ar wahân i Lywodraeth Prydain, fel y mae Carwyn Jones wedi ei awgrymu?"[8]
Dywedodd Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol, Elin Jones fod "gan y bleidlais i adael yn Refferendwm yr UE "oblygiadau eang" i gyfeiriad Cymru a'i chynulliad... Bydd angen llais cryf, a bydd angen bod o amgylch y bwrdd wrth gynnal unrhyw drafodaethau ynglŷn â dyfodol y DU."
Hanes
golyguYmunodd y Deyrnas Unedig (DU) gyda'r Undeb Ewropeaidd (a adnaybddwyd yr adeg honno fel 'y Farchnad Gyffredin', neu'r Gymuned Economaidd Ewropeaidd - EEC yn Saesneg) ar 1 Ionawr 1973.[9] Y Blaid Geindwadol oedd uchaf eu cloch dros ymuno â nhw oedd yn y Llywodraeth, gydag Edward Heath yn brif weinidog. Erbyn Etholiad 1974 roedd y Blaid Lafur, dan arweinyddiaeth Harold Wilson, yn uchel eu cloch fod angen newid termau aelodaeth y DU o fewn Ewrop a chynnal refferendwm. Lloriwyd y cynnig a daeth Margaret Thatcher (Ceidwadwr) yn Brif weinidog.[9] Newiddiodd y Blaid Lafur ei pholisiau.[9]
Y ddwy ochr
golyguO blaid aros | ||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
|
Yn erbyn aros | ||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
|
Y polau piniwn
golyguCymru
golyguDyddiad | Aros | Gadael | Ansicr | Sampl | Canlyniad |
---|---|---|---|---|---|
7–11 Ebrill 2016 | 38% | 39% | 16% | 1,011 | YouGov |
9–11 Chwefror 2016 | 37% | 45% | 18% | 1,024 | YouGov |
21–24 Medi 2015 | 42% | 38% | 21% | 1,010 | YouGov |
4–6 Mai 2015 | 47% | 33% | 16% | 1,202 | YouGov/ITV Wales |
24–27 Medi 2015 | 44% | 38% | 14% | 1,189 | YouGov/ITV Wales |
5–9 Medi 2015 | 43% | 36% | 17% | 1,279 | YouGov/ITV Wales |
19–26 Chwefror 2015 | 63% | 33% | 4% | 1,000 | ICM/BBC Archifwyd 2015-09-24 yn y Peiriant Wayback |
19–21 Ionawr 2015 | 44% | 36% | 16% | 1,036 | YouGov/ITV Wales |
2–5 Rhagfyr 2014 | 42% | 39% | 15% | 1,131 | YouGov/ITV Wales |
8–11 Medi 2014 | 43% | 37% | 15% | 1,025 | YouGov/ITV Wales |
26 Mehefin–1 Gorffennaf 2014 | 41% | 36% | 18% | 1,035 | YouGov/ITV Wales |
21–24 Chwefror 2014 | 54% | 40% | 6% | 1,000 | ICM/BBC |
14–25 Mehefin 2013 | 29% | 37% | 35% | 1,015 | Beaufort Research |
Gweler hefyd
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ "Referendum on membership of the European Union: Assessment of the Electoral Commission on the proposed referendum question" (PDF). Y Comisiwn Etholiadol. Medi 2015. Cyrchwyd 5 Medi 2015.
- ↑ www.telegraph.co.uk; papur y Telegraph; adalwyd 24 Mehefin 2016.
- ↑ Verhofstadt, Guy (5 Ionawr 2016). "Putin will be rubbing his hands at the prospect of Brexit". The Guardian. Cyrchwyd 29 Tachwedd 2015. Italic or bold markup not allowed in:
|publisher=
(help) - ↑ M. Holehouse, "Czech Republic 'will follow Britain out of EU'", The Daily Telegraph, 23 Chwefror 2016
- ↑ "Spanish PM's anger at David Cameron over Gibraltar". BBC News. 16 Mehefin 2016.
- ↑ Gwefan BBC Cymru; adalwyd 24 Mehefin 2016.
- ↑ Gwefan BBC Cymru; adalwyd 24 Mehefin 2016.
- ↑ Gwefan Cymru Fyw; adalwyd 24 Mehefin 2016.
- ↑ 9.0 9.1 9.2 Vaidyanathan, Rajini (4 Mawrth 2010). "Michael Foot: What did the 'longest suicide note' say?". BBC News Magazine. BBC. Cyrchwyd 21 Hydref 2015.
- ↑ Daw'r dyfyniadau hyn, oni nodir yn wahanol allan o bapur newydd yr Independent; 21 Chwefror 2016
- ↑ independent.co.uk; 26 Chwefror 2016
- ↑ brainyquote.com; adalwyd Chwefror 2016
- ↑ reuters.com; adalwyd Chwefror 2016.