Cynefin yr Ardd
Llyfr i blant ac oedolion sy'n trafod cynefin yr ardd gan Iolo Williams a Bethan Wyn Jones yw Cynefin yr Ardd. Gwasg Carreg Gwalch a gyhoeddodd y gyfrol a hynny yn 2012. Yn 2013 enillodd y llyfr Wobr Tir na n-Og. Yn 2017 roedd y gyfrol mewn print.[1]
Enghraifft o'r canlynol | gwaith llenyddol |
---|---|
Awdur | Iolo Williams a Bethan Wyn Jones |
Cyhoeddwr | Gwasg Carreg Gwalch |
Gwlad | Cymru |
Iaith | Cymraeg |
Dyddiad cyhoeddi | 30 Ebrill 2012 |
Pwnc | Planhigion Cymru |
Argaeledd | mewn print |
ISBN | 9781845273866 |
Disgrifiad byr
golyguNid llyfr garddio mo hwn, ond llyfr i blant ac oedolion sy'n trafod cynefin yr ardd - yr anifeiliaid, yr adar, y pryfetach, yr ymlusgiaid, y coed, y llwyni, y blodau a'r perlysiau sydd i gyd yn ffurfio'r cynefin cyfoethog hwn sydd ar riniog ein drws.
Gweler hefyd
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ Gwefan Gwales; adalwyd 3 Medi 2017.