Bethan Wyn Jones
Awdur Cymreig yw Bethan Wyn Jones.
Bethan Wyn Jones | |
---|---|
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | llenor |
Magwyd Bethan Wyn Jones yn y Talwrn, Sir Fôn, a derbyniodd ei haddysg gynradd yn ysgol y pentref. Cafodd ei haddysg uwchradd yn Ysgol Gyfun Llangefni a Choleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth, lle graddiodd mewn Sŵoleg. Mae'n cyfrannu sgyrsiau am wahanol agweddau ar fyd natur yn wythnosol i Galwad Cynnar ar Radio Cymru, yn ogystal ag erthyglau i'r Herald Cymraeg a chylchgronau eraill. Cyhoeddodd nifer o lyfrau poblogaidd gan gynnwys Bwrw Blwyddyn, Blodau Gwyllt, Natur y Flwyddyn, cyfres Doctor Dail a Llyfr Natur Iolo ar y cyd ag Iolo Williams.[1]
Llyfryddiaeth
golygu- Bwrw Blwyddyn (Gwasg Gwynedd, 1997)
- (gyda John Akeroyd) Blodau Gwyllt Cymru ac Ynysoedd Prydain (Gwasg Carreg Gwalch, 2006)
- Doctor Dail 1 (Gwasg Carreg Gwalch, 2008)
- Doctor Dail 2 (Gwasg Carreg Gwalch, 2009)
- Doctor Dail 3 (Gwasg Carreg Gwalch, 2010)
- Llyfrau Llafar Gwlad 60: Chwyn Joe Pye a Phincas Robin: Ysgrifau ar Ryfeddodau a Llên Gwerin Byd Natur (Gwasg Carreg Gwalch, 2004)
- Natur y Flwyddyn: Cyfoeth y Misoedd Mewn Gair a Llun (Gwasg Gomer, 2007)
- (gyda Iolo Williams) Cynefin yr Ardd (Gwasg Carreg Gwalch, 2012)
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "www.gwales.com - 9781845275327, Cyfres Cynefin: 3. y Fferm". www.gwales.com. Cyrchwyd 2019-10-29.
Gwybodaeth o Gwales |
Mae'r erthygl hon yn cynnwys testun o fywgraffiad yr awdur Bethan Wyn Jones ar wefan Gwales, sef gwefan gan Cyngor Llyfrau Cymru. Mae gan yr wybodaeth berthnasol drwydded agored CC BY-SA 4.0; gweler testun y drwydded am delerau ail-ddefnyddio'r gwaith. |