Cynghanedd lusg
Math o gynghanedd; nodwedd hynafol mewn barddoniaeth Gymraeg yw'r gynghanedd lusg.
Nodwedd sylfaenol llinell o gynghanedd lusg yw odl rhwng y sillaf olaf cyn yr orffwysfa a'r goben, neu'r sillaf olaf ond un. Rhoddir yr enw iddi gan ei bod yn llusgo'r odl o'r orffwysfa at y goben.
Dyma enghreifftiau o gynghanedd lusg:
- Mae na law: llond yr awyr! ('glaw' yn odli gydag 'aw'/yr)
- Mae'r afon yn cronni (odl rhwng y sillaf olaf cyn yr orffwysfa ("afon") a'r goben ("cronni").)
Enghreifftiau eraill
golygu- Prynu rhost, nid er bostiaw - Dafydd ap Gwilym
- Pan feddwn dalent plentyn - Gerallt Lloyd Owen
Llyfryddiaeth
golyguMae'r llyfrau canlynol yn trafod y gynghanedd lusg:
- John Morris-Jones, Cerdd Dafod (Gwasg Prifysgol Rhydychen, 1925)
- Alan Llwyd, Anghenion y Gynghanedd (Argraffiad diwygiedig, Cyhoeddiadau Barddas, 2007)
- Myrddin ap Dafydd, Clywed Cynghanedd (Gwasg Carreg Gwalch, 1994)