Math o gynghanedd; nodwedd hynafol mewn barddoniaeth Gymraeg yw'r Gynghanedd Sain. Yn wahanol i'r mathau eraill o gynghanedd, rhennir llinell o Gynghanedd Sain yn dair rhan. Ceir odl rhwng y ddwy ran gyntaf, a chyfatebiaeth gytseiniol rhwng yr ail a'r drydedd ran. Dyma un enghraifft o Gynghanedd Sain:

  • Estron, lladron a llwydrew.

Yma, mae "Estron" a "lladron" yn odli. Yna, ceir cynghanedd gytseiniol rhwng "lladron" a llwydrew" i gwblhau'r Gynghanedd Sain.

Am ymdriniaeth lawn a chynhwysfawr, gweler y llyfryddiaeth safonol isod.

Enghreifftiau eraill golygu

  • Tra môr yn fur i'r bur hoff bau
  • Trwy deimlad gwladgarol, mor swynol yw si
  • Wylit, wylit Lywelyn
  • Adeg rhedeg drwy'r rhedyn
  • Ein calon gan estron ŵr

Llyfryddiaeth golygu