Cynghrair Cymreig Arizona
Cymdeithas ddiwylliannol yn Arizona, yr Unol Daleithiau (UDA) yw Cynghrair Cymreig Arizona (Saesneg: Welsh League of Arizona) sy'n hybu Cymru a'r iaith Gymraeg yn yr Unol Daleithiau.
Enghraifft o'r canlynol | cymdeithas |
---|---|
Rhanbarth | Arizona |
Amcan y cynghrair yw hyrwyddo'r Gymraeg a diwylliant Cymru trwy:[1]
- Trefnu neu cydlunio digwyddiadau celfyddydol a llenyddol, cynnig cyrsiau i ddysgu Cymraeg a chymryd rhan mewn gwyliau Celtaidd a digwyddiadau eraill yn yr Unol Daleithiau.
- Cryfhau cysylltiadau rhwng Cymru ac UDA trwy fod o gymorth i ymwelwyr, pobl fusnes ac Americanwyr Cymreig
- Cryfhau'r cysylltiadau rhwng Cymru a'r gwledydd Celtaidd eraill trwy gefnogi grwpiau a mudiadau Celtaidd eraill yn yr Unol Daleithiau.
Mae'r cynghrair yn rhedeg gwefan ac yn cynnal gwersi Cymraeg ar-lein yn rhad ac am ddim. Maent yn rhedeg dosbarthau nos dysgu Cymraeg yn Tucson a Phoenix, Arizona.[2]
Cafodd waith y Cynghrair ei gynnwys ar raglen am etholiad arlywyddol UDA 2008 gan Dewi Llwyd a ddangoswyd ar S4C.[3]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Cynghrair Cymreig Arizona". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2009-09-28. Cyrchwyd 2009-04-25.
- ↑ "Cynghrair Cymreig Arizona". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2009-09-28. Cyrchwyd 2009-04-25.
- ↑ "Cynghrair Cymreig Arizona - rhaglen Dewi Llwyd". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2009-09-28. Cyrchwyd 2009-04-25.
Dolenni allanol
golygu- (Saesneg) Gwefan y Cynghrair Archifwyd 2009-01-29 yn y Peiriant Wayback
- Lluniau o waith y Cynghrair ar Flickr