Dewi Llwyd
Newyddiadurwr a darlledwr o Gymro yw Dewi Llwyd (ganwyd 26 Mawrth 1954)[1]. Mae'n un o gyflwynwyr amlycaf Cymru, wedi cyflwyno rhaglenni nosweithiol Newyddion S4C, rhaglenni etholiadol a chyfresi trafodaeth wleidyddol.
Dewi Llwyd | |
---|---|
Ganwyd | Dewi Llwyd Williams 26 Mawrth 1954 Bangor |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | newyddiadurwr, cyflwynydd teledu, cyflwynydd radio |
Cyflogwr |
Bywyd cynnar
golyguGanwyd Dewi Llwyd Williams ym Mangor yn 1954. Roedd ei dad, y Parchedig Ifor Ll. Williams o Gwm Rhymni yn wreiddiol, yn weinidog gyda'r bedyddwyr ac yn gyn-löwr. Roedd ei fam Mary yn athrawes o Ddyffryn Conwy a briododd Ifor yn 1952. Magwyd Dewi yn Neiniolen a Threforys a setlodd y teulu yn y mans ar Ffordd Deiniol, Bangor cyn ei fod yn chwe mlwydd oed.[2] Mynychodd Ysgol Gynradd St. Paul ac Ysgol Friars yn y dref. Aeth ymlaen i astudio mewn prifysgol yng Nghaerdydd, Llundain ac yn ddiweddarach yn Washington D.C. gyda cyfnodau mewn colegau yn Ffrainc a Sbaen hefyd.[3]
Gyrfa
golyguFe ymunodd a'r BBC o ddiwedd 1979 fel gohebydd seneddol[4] ac fe roedd yn wyneb cyfarwydd iawn ar raglen Newyddion S4C ers y cychwyn.
Cyflwynodd y rhaglen drafodaeth wleidyddol Pawb a'i Farn ar S4C rhwng 1998 a 2019. Cyflwynodd ei sioe olaf ar 2 Tachwedd 2019 gan ddweud ei fod yn "teimlo bod fy nghyfnod i ar y rhaglen wedi dod i ben ac mae'n bryd trosglwyddo i'r genhedlaeth nesaf".[5]
Ar ddiwedd 2012 gadawodd prif raglen newyddion S4C ac fe olynodd Gareth Glyn fel prif gyflwynydd y Post Prynhawn ar Radio Cymru.[6] Cyflwynodd ei rifyn olaf o'r Post Prynhawn ar 9 Hydref 2019.[7] Hefyd ar y radio roedd yn cyflwyno'r rhaglen Dewi Llwyd ar fore Sul a oedd yn cynnwys "adolygiadau o'r papurau Sul, gwestai pen-blwydd a cherddoriaeth hamddenol". Cychwynodd y rhaglen ar ddechrau 2008 a chyhoeddodd Dewi y byddai'n rhoi'r gorau i gyflwyno'r rhaglen ar ddiwedd 2021.[8]
Roedd hefyd yn llywio y rhaglen radio yn holi gwleidyddion, Hawl i Holi, ers 2008. Cyflwynodd ei rifyn cyntaf erioed o'r rhaglen o Ganolfan Bro Aled, Llansannan, a dyna hefyd leoliad ei rifyn olaf a ddarlledwyd yn fyw ar nos Iau 6 Gorffennaf 2023.[9]
Ers 2019 mae'n cyflwyno y rhaglen radio Dros Ginio bob dydd Llun a Gwener.[10]
Bywyd personol
golyguMae'n briod a Nia. Wedi priodi roedd y ddau yn byw yng Nghaerdydd ac am gyfnod roedd Dewi yn gweithio yn Llundain fel gohebydd seneddol. Yn Chwefror 1983, symudodd y teulu i fyw yn ardal y Garth ym Mangor.[2]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Pen-blwydd Hapus Dewi Llwyd". BBC Cymru Fyw. 2024-03-26. Cyrchwyd 2024-03-26.
- ↑ 2.0 2.1 Llwyd, Dewi (2017). Pawb a'i Farn: Dyddiadur Dewi Llwyd. Y Lolfa. ISBN 9781784615116
- ↑ Cristion - Dewi Llwyd. Cristion (Mawrth 1997). Adalwyd ar 11 Gorffennaf 2016.
- ↑ Dewi Llwyd
- ↑ Dewi Llwyd: 'Dwi'n teimlo'n gryf am rai pethau' , BBC Cymru Fyw, 1 Tachwedd 2019. Cyrchwyd ar 2 Tachwedd 2019.
- ↑ Cyflwynwyr newydd
- ↑ Ar fy niwrnod ola’n cyflwyno’r #postprynhawn @BBCRadioCymru diolch o galon i’r cynhyrchwyr a’r gohebwyr i gyd, i’r llu o bobl o bob cwr o Gymru a’r byd sydd wedi cyfrannu i’r rhaglen, ac wrth gwrs i bawb sydd wedi gwrando yn ystod y saith mlynedd diwethaf! Mae wedi bod yn fraint!. Dewi Llwyd (9 Hydref 2019). Adalwyd ar 10 Hydref 2019.
- ↑ Dewi Llwyd yn rhoi’r gorau i gyflwyno ei raglen radio , Golwg360, 10 Hydref 2021.
- ↑ "Dewi Llwyd i gyflwyno rhaglen Hawl i Holi am y tro olaf". BBC Cymru Fyw. 2023-07-03. Cyrchwyd 2023-07-03.
- ↑ "Cyhoeddi rhaglen ginio newydd ar BBC Radio Cymru". BBC Cymru Fyw. 2019-09-11. Cyrchwyd 2023-07-03.