Cyngor Dosbarth Gwledig Llandeilo

Roedd 'Cyngor Dosbarth Gwledig Llandeilo yn awdurdod lleol yn nwyrain Sir Gaerfyrddin, Cymru a grëwyd ym 1894 o dan Ddeddf Llywodraeth Lleol 1984. Cynhaliwyd yr etholiad cyntaf i'r awdurdod ym mis Rhagfyr 1894.[1]

Cyngor Dosbarth Gwledig Llandeilo
Daearyddiaeth
Statws Dosbarth Gwledig
Pencadlys Llandeilo
Hanes
Tarddiad Ddeddf Llywodraeth Lleol 1984
Crëwyd 1894
Diddymwyd 1974
Ailwampio Cyngor Bwrdeistref Dinefwr

Roedd Cyngor Dosbarth Gwledig Llandeilo yn gyfrifol am dai, glanweithdra ac iechyd y cyhoedd ac roedd ganddo hefyd rywfaint o reolaeth dros ffyrdd a chyflenwad dŵr.[2]

Roedd yr awdurdod yn cynnwys plwyfi Betws, Brechfa, Llandeilo Fawr (Gwledig), Llandybie, Llandyfeisant, Llanegwad, Llanfihangel Aberbythych, Llanfihangel Cilfragen, Llanfynydd, Llansawel, Talyllychau a Chwarter Bach.

Yn ystod blynyddoedd cynnar yr ugeinfed ganrif, yn dilyn twf sylweddol ym mhoblogaeth maes glo carreg Cymru, cerfiwyd dwy ardal drefol newydd allan o Ardal Wledig Llandeilo. Crëwyd Dosbarth Trefol Rhydaman yn 1903 allan o rannau o blwyfi Betws a Llandybïe.[3] Ym 1912, ffurfiwyd Dosbarth Trefol Cwmaman, gan gymryd rhannau o blwyfi Betws a Llandeilo Fawr.

Diddymwyd yr awdurdod yn dilyn ad-drefnu llywodraeth leol yn 1974, a chymerwyd ei rôl gan Gyngor Bwrdeistref Dinefwr.

Cyfeiriadau

golygu
  1. "Llandeilo Rural District Council". Carmarthen Journal (yn Saesneg). 21 Rhagfyr 1894.
  2. "Llandeilo Rural District Council and Llandovery Rural District Council Records (Carmarthenshire Archive Service)" (yn Saesneg). Archives Hub. Cyrchwyd 27 Rhagfyr 2018.