Cyngor Bwrdeistref Dinefwr

Roedd Cyngor Bwrdeistref Dinefwr yn awdurdod lleol yn rhan de Dyfed, Cymru, a grëwyd yn 1974 o dan Ddeddf Llywodraeth Leol 1972. Roedd gan yr ardal statws bwrdeistref, gan ganiatáu i gadeirydd y cyngor gymryd y teitl "maer".

Cyngor Bwrdeistref Dinefwr
Mathanheddiad dynol Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirSir Gaerfyrddin Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau51.883°N 4.013°W Edit this on Wikidata
Map
Cyngor Bwrdeistref Dinefwr yng Nghymru

Roedd ei bencadlys yn Llandeilo. Y prif trefi eraill dan eu gweinyddiaeth oedd Llanymddyfri a Rhydaman. Mae adeiladau'r pencadlys o hyd yn cael eu defnyddio gan Gyngor Sir Gaerfyrddin. Roedd yr ardal o bum hen ddosbarth o sir weinyddol Sir Gaerfyrddin, a ddiddymwyd ar yr un pryd:[1][2]

Diddymwyd yr awdurdod yn dilyn ad-drefnu llywodraeth leol ym 1996 pan ddaeth yr ardal dan weinyddiaeth Cyngor Sir Gaerfyrddin.

Roedd pencadlys y cyngor yn Swyddfeydd y Cyngor yn 30 Crescent Road, Llandeilo, a fu gynt yn swyddfeydd Cyngor Dosbarth Gwledig Llandeilo. Roedd hefyd yn defnyddio Neuadd y Dref Rhydaman fel swyddfa ardal.

Arfais

golygu
Arfbais Cyngor Bwrdeistref Dinefwr
Nodiadau
Caniatawyd 1 Hydref 1976.
Tarian
Sable a Castle of five Towers in perspective in pentagon two two and one Or on a Chief dancetty of three points downward Argent as many Ravens close Sable.
Escutcheon
On a Wreath Argent and Sable in front of a Crosier erect Or a Dragon passant Gules resting the dexter forefoot on a Garb or.
Cefnogwyr
On the dexter side a Boar Gules armed Or langued Azure charged on the shoulder with a Cross Sable fimbriated Or and on the sinister side a Welsh Mountain Ram proper charged on the shoulder with a Fountain.
Arwyddair
DIOGEL DAN DDINEFWR[3]

Cyfeiriadau

golygu
  1. Local Government Act 1972, deddfwriaeth.gov.uk; adalwyd 25 Mehefin 2024
  2. The Districts in Wales (Names) Order 1973, deddfwriaeth.gov.uk; adalwyd 25 Mehefin 2024
  3. "Wales". Civic Heraldry of Wales. Cyrchwyd 24 May 2023.