Cyngor Dosbarth Gwledig Llanelli
Mae Cyngor Dosbarth Gwledig Llanelli yn ne Cyngor Sir Gaerfyrddin, Cymru a grëwyd ym 1894.
Cyngor Dosbarth Gwledig Llanelli | |
Daearyddiaeth | |
Statws | Dosbarth Gwledig |
Pencadlys | Llanelli |
Hanes | |
Tarddiad | Ddeddf Llywodraeth Lleol 1894 |
Crëwyd | 1894 |
Diddymwyd | 1974 |
Ailwampio | Cyngor Bwrdeistref Llanelli |
Roedd y Cyngor Dosbarth Gwledig yn gyfrifol am dai, glanweithdra ac iechyd y cyhoedd ac roedd ganddo hefyd rywfaint o reolaeth dros ffyrdd a chyflenwad dŵr.
Roedd yr awdurdod yn cwmpasu cymunedau Pwll, Ffwrnais, Felinfoel, Dafen, Llwynhendy, Bynea a Dyffryn y Swisdir (Cwm Lliedi), yn ogystal â phentrefi Pont-iets (rhan), Pont Henri a Phwmp-hewl.
Ymgyrch y Beasleys
golyguO 1954 ymlaen gwrthododd y cyngor ddarparu galw ardrethi yn Gymraeg i Eileen Beasley er bod 90% o drigolion y cylch ar y pryd yn siarad Cymraeg, brwydr a barhaodd am 16 mlynedd cyn ildio.[1]
Diddymy
golyguDiddymwyd yr awdurdod ag ymino gyda Bwrdeistref Ddinesig Llanelli yn dilyn ad-drefnu llywodraeth leol yn 1974, a chymerwyd ei rôl gan Cyngor Bwrdeistref Llanelli.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Jones, Branwen (2023-05-31). "Campaign to save house of a couple who refused to pay English-only tax bills". WalesOnline (yn Saesneg). Cyrchwyd 2023-06-02.