Cyngor Bwrdeistref Llanelli
Cyngor Bwrdeistref Llanelli oedd y cyngor lleol a weinyddai rannau o Gwm Gwendraeth ac ardal drefol Llanelli cyn eu diddymiad ym 1996 pan ddaeth yr ardal dan weinyddiaeth Cyngor Sir Gaerfyrddin. Roedd hyn yn amhoblogaidd iawn gyda nifer o fewn y Cyngor ac ystyriodd y Prif Weithredwr, Mr. Bryn Parry-Jones, BA, MA (Oxon) geisio ffurfio Cyngor am ardaloedd Dyffryn Lliw, Abertawe ac ardal weinyddol Llanelli. Pencadlys y Cyngor oedd Tŷ Elwyn, Sgwâr Neuadd y Dref, Llanelli, sydd bellach hefyd yn cael ei ddefnyddio gan Gyngor Sir Gaerfyrddin.
![]() | |
Ystadegau | |
Poblogaeth | 44,475 (cyfrifiad 2001) |
---|