Cynulleidfa'r Brodyr Cristnogol

Urdd Gatholig o ddynion yw Cynulleidfa'r Brodyr Cristnogol (enw Lladin swyddogol: Congregatio Fratrum Christianorum), wedi ei sefydlu gan Edmund Ignatius Rice yn Iwerddon yn 1802. Mae'r Brodyr Cristnogol wedi agor ysgolion yn Iwerddon, Prydain Fawr, Unol Daleithiau America, Canada, Periw, India, De Affrica, Seland Newydd ac Awstralia.

Cynulleidfa'r Brodyr Cristnogol
Enghraifft o'r canlynolurdd crefyddol Edit this on Wikidata
CrefyddCatholigiaeth edit this on wikidata
Dechrau/Sefydlu1802 Edit this on Wikidata
SylfaenyddEdmund Ignatius Rice Edit this on Wikidata
PencadlysRhufain Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://ercbna.org/ Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Symbol y Brodyr Cristnogol

Mae tua 1,300 o frodyr yn yr urdd ar hyn o bryd.

Dywedir i'r urdd gynorthwyo mewn poblogeiddio'r gêm rygbi'r undeb yn Wrwgwái yn Ne America a arweiniodd at sefydlu tîm cenedlaethol yn y wlad.

Eginyn erthygl sydd uchod am Gristnogaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.