Tîm rygbi'r undeb cenedlaethol Wrwgwái
Mae tîm rygbi undeb cenedlaethol Wrwgwái, (llysenw Los Teros; "Y Cornchwiglod" [1]), yn cael ei lywodraethu gan Undeb Rygbi Wrwgwái ("Unión de Rugby del Uruguay"). Mae'n un o'r timau prawf hyna'r byd, ac mae wedi cymhwyso bedair gwaith ar gyfer Cwpan Rygbi'r Byd, ym 1999, 2003, 2015 ac yn fwyaf diweddar 2019. Maent un o dimau cryfaf yr Americas.
| |||
Cwpan y Byd | |||
---|---|---|---|
Ymddangosiadau | 3 |
Mae Wrwgwái wedi bod yn gyson yn un o’r ochrau rhyngwladol ymylol gorau yn rygbi'r undeb, ar ôl curo cystadleuaeth Lefel 2 a 3 o bob cwr o’r byd. Enillodd Uruguay Bencampwriaeth Rygbi De America ym 1981, yr unig dro (cyn 2014) i dîm heblaw'r Ariannin ennill y twrnamaint. Daethant yn ail ar 19 achlysur a thrydydd o'r 9 sy'n weddill. O 2012, mae Wrwgwái wedi'i dosbarthu fel cenedl Lefel 2, sy'n caniatáu iddynt dderbyn mwy o arian gan gorff llywodraethol ryngwladol rygbi'r undeb, World Rugby.
Ei stadiwm cartref yw Estadio Charrúa yn y brifddinas, Montevideo ac mae'n dal hyd at 14,000 o bobl. Mae Estadio Domingo Burgueño hefyd wedi cael ei ddefnyddio ar gyfer rhai gemau ym Mhencampwriaeth Rygbi America.
Hanes
golyguSefydlu'r Gêm
golyguChwaraewyd undeb rygbi ar bridd Uruguayaidd mor gynnar â'r 19g o bosibl, gydag adroddiadau bod pêl-droed rygbi yn cael ei chwarae mor gynnar â 1865,[2] er bod gwreiddiau rygbi yn Uruguay yn parhau i fod yn ddadleuol. Waeth pwy chwaraeodd y gêm rygbi gyntaf yn Wrwgwái, mae'n amlwg bod rygbi wedi'i gyflwyno yn y wlad gan fewnfudwyr o Brydain yn y 19g, gyda'r gêm yn cael ei phoblogeiddio'n fwy gan Cynulleidfa'r Brodyr Cristnogol ("Congregation of Christian Brothers"), a oedd o darddiad Gwyddelig. Oherwydd hyn, mae gan Wrwgwái un o'r diwylliannau rygbi hynaf y tu allan i Ynysoedd Prydain, ac un o'r rhai mwyaf sefydledig yn Ne America.
Gemau Rhyngwladol Cynnar
golyguChwaraewyd gêm ryngwlado swyddogol gyntaf yn 1948 yn erbyn Chile, a gollodd Uruguay 21–3. Yn dilyn eu gêm gyntaf, maent yn dychwelyd i gystadleuaeth yn y Gemau Pan Americanaidd, yn gyntaf yn erbyn yr Ariannin mwy profiadol, gan arwain at golled 0-62. Yna fe wynebodd Uruguay Chile am yr eildro, gan eu trechu erbyn 8–3. Gêm olaf y gystadleuaeth oedd buddugoliaeth o 17-10 dros Brasil. Felly daeth Uruguay yn ail ym Mhencampwriaeth Rygbi answyddogol gyntaf De America.
Bu'n rhaid aros nes 1960 cyn i Wrwgwái wynebu un o bwerau rygbi Hemisffer y Gogledd, Ffrainc XV, am y tro cyntaf, gan golli o 0-59 ym Montevideo yn ystod taith yn Ne America.
Dros yr 1970au ac 1980au, timau eraill De America megis Paraguay a Brasil oedd prif wrthwynebwyr Wrwgwái. Ym 1985, ymwelodd Ffrainc â Montevideo am yr eildro i chwarae'r Teros, gan guro'r bobl leol 34–6. Yn ystod yr 1990au chwaraeodd Wrwgwái rai o'r cenhedloedd mwy fel yr Ariannin, Canada a'r Unol Daleithiau, serch hynny. Canada a'r UD roedd gemau yn llawer agosach na rhai o'u cyfarfyddiadau blaenorol. Llwyddiant enfawr iddyn nhw oedd cymhwyso ar gyfer Cwpan Rygbi'r Byd 1999 yng Nghymru. Fe wnaethant ennill eu gêm yn y pwll yn erbyn Sbaen, gorffennodd Wrwgwái yn drydydd yn eu pwll.
Ehangu Adennydd
golyguYn ystod yr 2000au cafodd Wrwgwái dechreuodd Wrwgwái chwarae timau newydd megis yr Eidal, a cafwyd Cyfres o fuddugoliaethau nodediad gan drechu Canada, 25-23; UDA 10-9, cymwyso ar gyfer Cwpan Rygbi'r Byd 2003 gan drechu Jeorjia 24-12.
Ond methodd y tîm gymwyso ar gyfer Cwpan Rygbi'r Byd 2007 a 2011 gan golli i Rwmania 12-32 ac y cyfle olaf un yn Bucharest.
Llwyddodd y tîm i gyrraedd yr 20 tîm sy'n cystadlu ar gyfer Cwpan Rygbi'r Byd 2015 wedi dilyn llwybr hir trwy drechu Rwsia ar sgôr gyfanredol o 57-49 yn y gyfres dwy gêm, gan ennill yr ail gêm gartref 36–27 o flaen 14,000 o gefnogwyr yn Stadiwm Charrua.[3]
Ar Chwefror 3, 2018, cymhwysodd Los Teros ar gyfer Cwpan Rygbi'r Byd 2019 fel Americas 2 ar ôl curo Canada yn y cymal gartref.
Mae Wrwgwái hefyd yn un o'r chwech tîm cenedlaethol sy'n cymryd rhan yng nghystadleuaeth flynyddol Pencampwriaeth Rygbi yr Americas, a adnabir fel pencamwpwriaeth "Chwe Gwlad Americas".
Cymru ac Wrwgwái
golyguDim ond unwaith y bu i Wrwgwái chwarae yn erbyn Cymru cyn Cwpan Rygbi'r Byd 2019 a bu hynny mewn cwpan rygbi arall. Roedd Wrwgwái yn yr un grŵp â Chymru a bu i'r De Americanwyr golli 54-9 mewn gêm yn Stadiwm y Mileniwm, Caerdydd.[4][5]
Logo
golyguNewidiodd yr URU logo'r undeb ym mis Tachwedd 2014 yn barod ar gyfer Cwpan Rygbi'r Byd 2015[6].
-
Cornchwiglen De America, arwyddlun Undeb Rygbi Wrwgwái
-
Logo URU cyn 2014.
Record Cwpan y Byd a Chystadlaethau Eraill
golygu- 1987 : heb gwahodd;
- 1991 : heb gymwyso;
- 1995 : heb gymwyso;
- 1999 : allan wedi'r rownd 1af;
- 2003 : allan wedi'r rownd 1af;
- 2007 : heb gymwyso;
- 2011 : heb gymwyso;
- 2015 : allan wedi'r rownd 1af;
- 2019 : wedi cymwyso.
Pencampwriaeth Rygbi De America
- Ennill yn 1981 a 2014;
- Rown derfynnol yn: 1951, 1973, 1977, 1979, 1983, 1985, 1987, 1991, 1993, 1995, 1997, 2000, 2001, 2002, 2003, 2004, 2005, 2006, 2007, 2008, 2009, 2010, 2012
Record Byd-eang
golygu30 safle uchaf ar 10 Chwefror 2020[7] | |||
Safle | Newid* | Tîm | Pwyntiau |
1 | De Affrica | 94.19 | |
2 | Seland Newydd | 92.11 | |
3 | Lloegr | 87.80 | |
4 | Iwerddon | 85.36 | |
5 | Cymru | 84.28 | |
6 | Ffrainc | 82.37 | |
7 | Awstralia | 81.90 | |
8 | Japan | 79.28 | |
9 | Yr Alban | 78.58 | |
10 | Yr Ariannin | 78.31 | |
11 | Ffiji | 76.21 | |
12 | Georgia | 72.70 | |
13 | Yr Eidal | 72.04 | |
14 | Tonga | 71.44 | |
15 | Samoa | 70.72 | |
16 | Sbaen | 68.28 | |
17 | Unol Daleithiau America | 68.10 | |
18 | Wrwgwái | 67.41 | |
19 | Rwmania | 65.11 | |
20 | Portiwgal | 62.40 | |
21 | Hong Cong | 61.23 | |
22 | Canada | 61.12 | |
23 | Namibia | 61.01 | |
24 | Yr Iseldiroedd | 60.08 | |
25 | Rwsia | 59.90 | |
26 | Brasil | 58.89 | |
27 | Gwlad Belg | 57.57 | |
28 | Yr Almaen | 54.64 | |
29 | Chile | 53.83 | |
30 | De Corea | 53.11 | |
*Newid o'r wythnos flaenorol | |||
Safleoedd blaenorol Uruguay | |||
Ffynhonnell: World Rugby - Diweddarwyd y graff i 7 Ionawr 2019[7] |
Mae Wrwgwái wedi colli pob gêm swyddogol yn erbyn yr Ariannin, ond mae ganddi record gadarnhaol yn erbyn eu cystadleuwyr eraill yn Ne America: Chile (25 buddugoliaeth, 13 colled, 1 gêm gyfartal), Paraguay (20 buddugoliaeth, 1 gêm gyfartal) a Brasil (16 buddugoliaeth, 3 colled).
O ran timau Lefel 2, mae gan Wrwgwái gofnodion cadarnhaol gyda Phortiwgal, cofnodion niwtral â Sbaen, a chofnodion negyddol gyda'r UDA, Canada, Jeorgia, Rwmania a Rwsia.
Isod mae tabl o'r gemau rygbi cynrychioliadol a chwaraewyd gan XV cenedlaethol Uruguay ar lefel prawf hyd at 20 Awst 2019.[8]
Opponent | Played | Won | Lost | Drawn | Win % | For | Aga | Diff |
---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Yr Ariannin | 42 | 0 | 42 | 0 | 0.00% | 434 | 1744 | −1310 |
Nodyn:RuA | 12 | 3 | 9 | 0 | 40.00% | 174 | 505 | −331 |
Nodyn:RuA | 2 | 0 | 2 | 0 | 0.00% | 40 | 1010 | −61 |
Awstralia | 1 | 0 | 1 | 0 | 0.00% | 3 | 65 | −62 |
Gwlad Belg | 1 | 1 | 0 | 0 | 100.00% | 39 | 13 | +26 |
Brasil | 27 | 25 | 2 | 0 | 92.59% | 962 | 201 | +671 |
Canada | 13 | 5 | 8 | 0 | 33.33% | 232 | 370 | −141 |
Chile | 52 | 40 | 11 | 1 | 77.88% | 1281 | 789 | +493 |
Emerging Ireland | 3 | 0 | 3 | 0 | 0.00% | 43 | 126 | −83 |
Nodyn:RuA | 4 | 2 | 2 | 0 | 50.00% | 90 | 89 | +1 |
Lloegr | 2 | 0 | 2 | 0 | 0.00% | 16 | 171 | −155 |
Ffiji | 3 | 0 | 3 | 0 | 0.00% | 46 | 154 | −108 |
Fiji XV | 1 | 0 | 1 | 0 | 0.00% | 3 | 24 | −21 |
Nodyn:RuA | 3 | 1 | 2 | 0 | 33.33% | 73 | 82 | −9 |
France XV | 2 | 0 | 2 | 0 | 0.00% | 6 | 95 | −89 |
Georgia | 5 | 2 | 3 | 0 | 40.00% | 72 | 85 | −13 |
Yr Almaen | 1 | 0 | 1 | 0 | 0.00% | 21 | 24 | −3 |
Hong Cong | 1 | 1 | 0 | 0 | 100.00% | 28 | 3 | +25 |
yr Eidal | 3 | 0 | 3 | 0 | 0.00% | 25 | 92 | −67 |
Japan | 3 | 1 | 2 | 0 | 33.33% | 32 | 88 | −56 |
Casachstan | 1 | 1 | 0 | 0 | 100.00% | 44 | 7 | +37 |
Moroco | 2 | 1 | 1 | 0 | 50.00% | 36 | 24 | +12 |
Namibia | 4 | 3 | 1 | 0 | 75.00% | 142 | 112 | +30 |
New Zealand XV | 1 | 0 | 1 | 0 | 0.00% | 3 | 64 | −61 |
Paragwâi | 26 | 25 | 0 | 1 | 96.15% | 1322 | 238 | +1084 |
Periw | 1 | 1 | 0 | 0 | 100.00% | 10 | 6 | +4 |
Portiwgal | 10 | 7 | 3 | 0 | 70.00% | 234 | 142 | +92 |
Rwmania | 9 | 1 | 7 | 1 | 0.00% | 85 | 226 | −141 |
Rwsia | 9 | 5 | 4 | 0 | 55.55% | 231 | 215 | +16 |
Samoa | 1 | 0 | 1 | 0 | 0.00% | 13 | 60 | −47 |
yr Alban | 1 | 0 | 1 | 0 | 0.00% | 12 | 43 | −31 |
Nodyn:RuA | 1 | 0 | 1 | 0 | 0.00% | 3 | 27 | −24 |
De Affrica | 3 | 0 | 3 | 0 | 0.00% | 12 | 245 | −233 |
South Africa President's XV | 1 | 0 | 1 | 0 | 0.00% | 9 | 37 | −28 |
South American XV | 1 | 1 | 0 | 0 | 100.00% | 24 | 20 | +4 |
Sbaen | 12 | 6 | 6 | 0 | 50.00% | 232 | 197 | +35 |
Unol Daleithiau America | 19 | 3 | 15 | 1 | 18.42% | 317 | 591 | −274 |
Feneswela | 1 | 1 | 0 | 0 | 100.00% | 92 | 8 | +84 |
Cymru | 1 | 0 | 1 | 0 | 0.00% | 9 | 54 | −45 |
Total | 284 | 135 | 145 | 4 | 47.54% | 6453 | 7226 | −773 |
Dolenni
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-08-30. Cyrchwyd 2019-08-30.
- ↑ Richards, p54, Chapter 2 Practising the Games of the Anglo-Saxon...
- ↑ "Uruguay qualify for Rugby World Cup 2015" Archifwyd 2014-10-12 yn y Peiriant Wayback, IRB.com, 11 October 2014.
- ↑ https://www.bbc.co.uk/sport/rugby-union/34294887
- ↑ https://golwg360.cymru/newyddion/cymru/200306-cymru-v-wrwgwai-dydd-sul
- ↑ Nodyn:Lien web
- ↑ 7.0 7.1 "Men's World Rankings". World Rugby. Cyrchwyd 30 Medi 2019.
- ↑ Uruguay rugby statistics