Cynulliad Cenedlaethol Catalwnia
Mudiad cenedlaethol yng Nghatalwnia ydy Assemblea Nacional Catalana (talfyriad: ANC; Cymraeg: Cynulliad Cenedlaethol Catalwnia); roedd ganddo dros 80,000 o aelodau (40,000 ohonynt yn talu) yn 2015.[1] Rhwng ei ffurfio yn 2011 a Mai 2015 ei Lywydd oedd Carmen Forcadell cyn trosglwyddo'r awenau i Jordi Sànchez. Mae'r ANC yn diffinio'i hun fel mudiad democrataidd, poblogaidd ac unol.[2]
Enghraifft o'r canlynol | sefydliad gwleidyddol |
---|---|
Idioleg | mudiad Catalwnaidd dros annibyniaeth |
Dechrau/Sefydlu | 2012 |
Pennaeth y sefydliad | Arlywydd Assemblea Nacional Catalana |
Sylfaenydd | Pere Pugès, Miquel Strubell i Trueta, Miquel Sellarès i Perelló, Enric Ainsa i Puig |
Ffurf gyfreithiol | Spanish association |
Pencadlys | Barcelona |
Gwladwriaeth | Sbaen |
Gwefan | https://assemblea.cat/ |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Un o'i ymgyrchoedd cyntaf oedd gwrthdystiad enfawr ar 11 Medi 2012 yn Barcelona, pan ddaeth 1.5 miliwn o bobl at ei gilydd i alw am annibyniaeth i Gatalwnia. Dyma'r brotest fwyaf a welwyd yng Nghatalwnia (hyd 2015). Ar 8 Mehefin y flwyddyn dilynol ail-etholwyd Carme Forcadell yn Llywydd. Rhennir gwaith y mudiad rhwng deg siaptr neu ranbarth, er mwyn ysgogi gweithgareddau lleol.
- Rhai gwrthdystiadau a drefnwyd gan yr ANC
-
Medi 2012 ar ffordd y Passeig de Gracia
-
Concert per la Llibertat, 2013
-
Llwybr y Catalwniaid; rhes o bobl: dros 300,000 o bobl; 480-cilometr; Medi 2013
Gweler hefyd
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ https://assemblea.cat; adalwyd Awst 2015
- ↑ http://www.ccma.cat; adalwyd Awst 2015