Cyrdiaid yn Nhwrci

Mae Cyrdiaid yn Nhwrci yn ganran sylweddol o boblogaeth Twrci. Maent yn wahanol i'r Twrciaid am eu bod yn siarad iaith Indo-Ewropeaidd. Trigant ledled Twrci ond lleolir y mwyafrif ohonynt yn nwyrain a de-ddwyrain y wlad, o ble maent yn dod yn wreiddiol. Mae triniaeth gweriniaeth Twrci o ddinasyddion gydag ethnigrwydd Cyrdaidd wedi cael ei feirniadu'n barhaus ar lefel rhyngwladol.

Dyn Cyrdaidd ar gefn ceffyl, Lake Van, 1973

Yn ystod y 1930au, ceisiodd bolisïau llywodraeth Twrci gyflwyno gwasgaru gorfodol ar y Cyrdiaid. Mae presenoldeb y Cyrdiaid yn dyst i'r modd y safodd y Cyrdiaid yn erbyn mesurau o'r fath. Ers 1984, mae'r mudiadau protest hyn wedu cynnwys gweithgareddau gwleidyddol heddychlon er mwyn cael hawliau sifil sylfaenol ar gyfer y Cyrdiaid yn Nhwrci, ond hefyd gwelwyd gwrthryfela treisgar yn yr ymgyrch am dalaith Cyrdaidd annibynnol. Fodd bynnag, dywed y mwyafrif o Gyrdiaid yn Nhwrci, 59%, nad ydynt eisiau talaith ar wahan.[1]

Cyfeiriadau golygu

  1. "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2010-07-14. Cyrchwyd 2010-05-20.

Dolenni allanol golygu