Dinas o'r cyfnod clasurol yw Cyrene, yn hen dalaith Cyrenaica, ger arfordir Gwlff Sirta (Sirtes) yn Libia.

Cyrene
MathGreek colony, safle archaeolegol, municipality of Libya, emporia, polis Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
Cylchfa amserUTC+2 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirLibia Edit this on Wikidata
GwladLibia Edit this on Wikidata
Arwynebedd131.675 ha Edit this on Wikidata
GerllawY Môr Canoldir Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau32.8167°N 21.85°E Edit this on Wikidata
Cadwyn fynyddJebel Akhdar Edit this on Wikidata
Map
Statws treftadaethSafle Treftadaeth y Byd Edit this on Wikidata
Manylion
Teml Apollo yn Cyrene

Yn ôl traddodiad fe'i sefydlwyd gan y brenin Battus yn 630CC. Mae'r enw, fel enw'r dalaith, yn dod o'r dduwies Cyrene fam Aristæus, ei mab gan Apollo. Roedd yn ddinas enwog yn yr Hen Fyd, wedi'i lleoli yng nghanol gwastadedd atyniadol tua 11 milltir o'r Môr Canoldir. Cyrene oedd prifddinas y Pentapolis ("Y Pum Dinas"), ardal bwysicaf y dalaith. Cafodd nifer o wŷr enwog eu geni yno, yn eu plith y bardd ac ysgolhaig Callimachus (m. c.240CC), y polymath Eratosthenes (275CC-195CC), Anniceris, Carneades ac Aristippus. Daeth dan reolaeth y Rhufeiniaid yn 97CC.

Mae safle Cyrene ar restr UNESCO o Safleoedd Treftadaeth y Byd.

ffynonellau

golygu
  • J. Lempriere, A Classical Dictionary (London, d.d.)
  • Oskar Seyffert, A Dictionary of Classical Antiquities, gyda ychwanegiadau gan H. Nettleship a J.E. Sandys (Llundain, 1902).