Ffilm ddogfen a gynhyrchwyd yn 2014 yw Cysgod Rhyfel, sy'n archwilio effeithiau meddyliol gwrthdaro ar gyn-filwyr a'u teuluoedd[1]. Darlledwyd y ffilm gyntaf ar S4C ar 18 Mai 2014 fel rhan o gyfres bu S4C yn darlledu ar y pryd yn ymwneud â wahanol agweddau o iechyd meddwl. Mae'r ffilm yn cyfeirio'n benodol at Anhwylder Straen Wedi Trawma (PTSD)[2].

Cysgod Rhyfel
Poster Cysgod Rhyfel
Teitl amgen ''The Shadow of War''
Cyfarwyddwr John Evans
Cynhyrchydd gweithredol Ifor ap Glyn
Cynhyrchydd John Evans
Ysgrifennwr John Evans
Serennu Maldwyn Jones
Roy Rees
Ryan Roberts
Richard Jones
Sinematograffeg Rhys Edwards
Golygydd Llŷr Madog
Dylunio
Cwmni cynhyrchu Cwmni Da
Dyddiad rhyddhau 18 Mai 2014
Amser rhedeg 48 munud
Gwlad Cymru
Iaith Cymraeg

Ifor ap Glyn oedd cynhyrchydd gweithredol y ffilm. Cafodd ei gyfarwyddo a'i gynhyrchu gan John Evans a Gwenllian Griffiths[3].

Crynodeb

golygu

Ar ôl y gwasanaeth gweithredol yng Ngogledd Iwerddon, Ynysoedd y Falklands, Irac ac Affganistan, mae pedwar cyn milwyr yn trafod eu profiadau o wrthdaro ac effeithiau seicolegol rhyfel ar eu bywydau y tu hwnt i faes y frwydr. Maent yn sôn am sut beth yw bywyd i gyn filwyr wedi rhyfel ac wedi dychwelyd adref. Mae'r ffilm yn defnyddio cymysgedd o dystiolaeth bersonol gan gyn milwyr, deunydd archif a threfniadau dramatig.

Wrth sôn, mewn cyfweliad am y ffilm, eglurodd John Evans ei resymau dros wneud y ffilm gan ddweud "Rwy'n teimlo ymdeimlad o gyfrifoldeb a rhwymedigaeth i dynnu sylw at y materion sy'n ymwneud â phrofiad rhyfel ac iechyd meddwl sy'n wynebu cyn-filwyr ... mae'n hanfodol bod eu storïau yn cael eu clywed i helpu i fynd i'r afael â'r bom amser o ddynion a merched sy'n cael eu trawmateiddio gan ryfel"[4].

Cyfwelwyd

golygu
  • Maldwyn Jones, cyn Gwarchodluwr Cymreig a fu'n gwasanaethu yng Ngogledd Iwerddon a Rhyfel y Falklands. Goroesodd yr ymosodiad awyr ar y llong Sir Galahad ym 1982.
  • Roy Rees, cyn milwr yn y Corfflu Trafnidiaeth Brenhinol a wasanaethodd yng Ngogledd Iwerddon.
  • Ryan Roberts, cyn meddyg yng Nghorfflu Meddygol Brenhinol y Fyddin a wasanaethodd yn Affghanistan ac Irac.
  • Richard Jones, cyn Gwarchodluwr Cymreig a wasanaethodd yn Afghanistan.
  • William Watkins, therapydd i gyn milwyr.
  • Liza Roberts, gwraig Ryan Roberts.

Mewn ffotograffau a fideo

golygu

Mae'r ffilm yn defnyddio'r ffotograffau personol y cyn-filwyr a gafodd eu cyfweld yn ogystal a'r neges fideo ddiwethaf a recordwyd gan y Gwarchodluwr Cymreig yr Is-rhingyll Dan Collins. Roedd Collins wedi cael trafferth gyda PTSD ar ôl gwasanaethu yn Affghanistan. Cymerodd ei fywyd ei hun ar ôl gadael neges fideo i'w fam, Deana Collins.

Ail berfformwyr

golygu
  • Iago McGuire
  • Jack Evans
  • Youssef Alkaddour
  • Seth Williams

Cyfeiriadau

golygu

Dolenni allanol

golygu