Agor y brif ddewislen

Cytiau Tŷ Mawr

olion tuag ugain o gytiau o gerrig sych a systemau caeau cysylltiedig, a berthynai i gyfres o ffermydd cyn hanes a ffermydd diweddarach


Safle archaeolegol yw Cytiau Tŷ Mawr, a elwir hefyd yn Grŵp Cytiau Mynydd Twr neu Cytiau'r Gwyddelod, lle ceir olion nifer o dai crwn o Oes yr Efydd, Oes yr Haearn a'r cyfnod Rhufeinig ac a leolir ar Fynydd Tŵr gerllaw Caergybi, Ynys Môn.

Grŵp Cytiau Mynydd Twr
Hut circle, Holyhead Mountain. - geograph.org.uk - 1149808.jpg
Math heneb gofrestredig, safle archaeologeol Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Sir Trearddur Edit this on Wikidata
Gwlad Baner Cymru Cymru
Cyfesurynnau 53.3054°N 4.6838°W Edit this on Wikidata
Cod OS SH212820 Edit this on Wikidata
Cyfnod daearegol Prehistoric Britain Edit this on Wikidata
Dynodwr Cadw AN016 Edit this on Wikidata

DisgrifiadGolygu

Ceir gweddillion 10 o dai crwn o faint sylweddol, tua 7m ar draws, ar hyd y llethr, gydag olion adeiladau llai, petrual. Mae llawr rhai o'r adeiladau petrual yn is na lefel y ddaear, a grisiau yn mynd i lawr iddynt.[1]

 
Rhan o Gytiau Tŷ Mawr
 
Un o Gytiau Tŷ Mawr

Bu cloddio archaeolegol yma gan W.O. Stanley yn 1862-8, a bu cloddio eto yn 1978-82. Darganfuwyd ar y safle dystiolaeth fod pobl wedi byw yma am gyfnod maith, yn dechrau yn y cyfnod Mesolithig a thrwy'r cyfnod Neolithig ac Oes yr Efydd. Mae'r adeiladau a welir ar y safle yn dyddio o Oes yr Haearn, a pharhawyd i'w defnyddio hyd y 6g.[1]

LlyfryddiaethGolygu

  • Lynch, Frances (1995) Gwynedd (A guide to ancient and historic Wales) (Llundain:HMSO) ISBN 0-11-701574-1

CyfeiriadauGolygu

  1. 1.0 1.1 Lynch, Frances (1995) Gwynedd (A guide to ancient and historic Wales).
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: