Cytsain
Sain a gynhyrchir drwy gau neu drwy gulhau llif yr awyr sy'n pasio allan o'r ysgyfaint ar hyd y llwybr lleisiol yw cytsain. Gan fod mwy o gytseiniaid yn ieithoedd y byd nag sydd yn yr wyddor Ladin neu mewn unrhyw ddull ysgrifennu arall, defnyddir symbolau'r Gymdeithas Seineg Ryngwladol (yr IPA) i'w dynodi. Yn draddodiadol, gwahaniaethir rhwng cytseiniaid ar sail nifer o nodweddion cynaniadol:
- dull cynanu: sut mae'r gytsain yn cael ei chynanu, ai drwy atal llif yr awyr yn llwyr i greu ffrwydrolion megis /p b t d k g/ neu drwy lesteirio llif yr awyr yn rhannol i greu ffritholion megis /f/ (Cymraeg ff), /v/ (Cymraeg f), /θ/ (Cymraeg th), /ð/ (Cymraeg dd) neu /x/ (Cymraeg ch)
- lle cynanu: lle ar hyd y llwybr lleisiol y digwydd y rhwystr. Yn y rhan fwyaf o achosion, mae hyn yn golygu lle mae'r tafod yn ymgyffwrd â thaflod y genau
- os yw'r tannau lleisiol yn dirgrynu fel y mae'r gytsain yn cael ei chynhyrchu, ceir cytsain leisiol megis /b d g v ð/; os nad yw'r tannau lleisiol yn dirgrynu, ceir cytsain ddi-lais megis /p t k f θ/.
- amser dechrau lleisio
- dull y mae'r awyr yn llifo
- hyd y gytsain
Ceir hefyd gytseiniaid sy'n newid eu cynaniad fel y maen nhw'n cael eu cynhyrchu. Os yw cytsain yn dechrau gyda rhwystr llwyr yn y llwybr lleisiol sydd wedyn yn gwanhau i fod yn rhwystr rhannol yn ail ran y gytsain, ceir cytsain affrithol megis /tʃ/ (fel yn y gair Tsieina) neu /dʒ/ (fel yn jôc).
Gall fod yna fwy nag un cynaniad yn yr un gytsain. Cyfeirir at hyn fel cynaniad eilradd.
Cytseiniaid y Gymraeg yw:
di-llais | lleisiol | |
---|---|---|
ffrithol | /f/ <ff> neu <ph>
/θ/ <th> /ɬ/ <ll> /s/ <s> /ʃ/ <si> neu <sh> /x/ <ch> /h/ <h> |
/v/ <f>
/ð/ <dd> |
ffrwydrol | /p/ <p>
/t/ <t> /k/ <c> |
/b/ <b>
/d/ <d> /g/ <g> |
trwynol | /m̥/ <mh>
/n̥/ <nh> /ŋ̊/ <ngh> |
/m/ <m>
/n/ <n> /ŋ/ <ng> |
eraill | /r̥/ <rh> | /r/ <r>
/l/ <l> /w/ <w> |
Gweler hefydGolygu
- Cytsain ddwywefusol
- Seineg
- Abjad - wyddor gystain (gan fwyaf) a ddefnyddir i ysgrifennu Arabeg a Hebraeg
DolenniGolygu
- 'Cyflwyniad i Ieithyddiaeth Golygyddion: Sarah Cooper a Laura Arman ar Porth Coleg Cymraeg Cenedlaethol