Ieithyddiaeth
Ieithyddiaeth ddamcaniaethol
Seineg
Ffonoleg
Morffoleg
Cystrawen
Semanteg
Semanteg eiriadurol
Arddulleg
Pragmateg
Ieithyddiaeth hanesyddol
Ieithyddiaeth gymdeithasegol
Ieithyddiaeth gymharol
Caffael iaith
Ieithyddiaeth gymhwysol
Ieithyddiaeth wybyddol

Astudiaeth seiniau iaith lafar yw seineg, ac fe ystyrir yn un o brif feysydd ieithyddiaeth, yr astudiaeth wyddonol o iaith. Yn seineg astudir priodweddau'r seiniau eu hunain, y modd y caent eu cynhyrchu, eu clywed a'u deall. Mae'n wahanol, felly, i ffonoleg, sef yr astudiaeth o systemau seinegol haniaethol. Mae seineg yn ymdrin â'r seiniau eu hunain yn hytrach na'u cyd-destyn mewn iaith. Ni thrafodir semanteg (sef astudiaeth ystyr ieithyddol) ar y lefel hon o ddadansoddiad.

Mae tair prif gangen i seineg:

Astudiwyd seineg cyn gynhared â 2,500 mlynedd yn ôl yn yr India, gydag eglurhad y gramadegydd Pāṇini o leoliad a natur ynganiad cytseiniaid yn ei draethawd gramadegol ar Sansgrit.

Mae'r erthygl hon yn cynnwys term neu dermau sydd efallai wedi eu bathu'n newydd sbon: seineg ynganol, seineg acwstig, seineg clybydol o'r Saesneg "articulatory phonetics, acoustic phonetics, auditory phonetics". Gallwch helpu trwy safoni'r termau.

Dolenni golygu

Cyfeiriadau golygu

  Eginyn erthygl sydd uchod am ieithyddiaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.