Cytundeb Molotov–Ribbentrop

Cytundeb anymosod rhwng yr Undeb Sofietaidd a'r Almaen Natsïaidd oedd Cytundeb Molotov–Ribbentrop (enw swyddogol: Cytundeb Anymosod rhwng yr Almaen ac Undeb y Gweriniaethau Sosialaidd Sofietaidd) a arwyddwyd ym Moscfa ar 23 Awst 1939 gan Vyacheslav Molotov, y gweinidog tramor Sofietaidd, a Joachim von Ribbentrop, gweinidog tramor yr Almaen.

Cytundeb Molotov–Ribbentrop
Molotov (chwith) yn ysgwyd llaw â Ribbentrop ar 23 Awst 1939.
Enghraifft o'r canlynolnon-aggression pact, secret treaty Edit this on Wikidata
Dyddiad23 Awst 1939 Edit this on Wikidata
IaithAlmaeneg, Rwseg Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu1939 Edit this on Wikidata
Dechreuwyd23 Awst 1939 Edit this on Wikidata
Daeth i ben22 Mehefin 1941 Edit this on Wikidata
LleoliadMoscfa Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Nododd y cytundeb feysydd dylanwad y ddwy wlad, a chadarnhawyd hyn gan welliant ar 28 Medi 1939 yn sgil goresgyniad Gwlad Pwyl gan yr Almaen yn y gorllewin a'r Undeb Sofietaidd yn y dwyrain. Gwireddwyd y cytundeb ar 1 Medi 1939 pan ymosododd yr Almaen ar Wlad Pwyl a meddiannu hefyd Dinas Rydd Danzig.

Daeth y cytundeb i ben pan ymosododd lluoedd yr Almaen ar y Sofietiaid ar 22 Mehefin 1941 yn ystod Ymgyrch Barbarossa.

Ymysg un o'r effeithiau y Cytundeb oedd tynnu tiriogaeth oddi ar Rwmania Fawr.