Dinas Rydd Danzig

tiriogaeth lled-annibynnol o dan oruchwyliaeth Cynghrair y Cenhedloedd rhwng 1920-1939. Poblogaeth Almaeneg a Pwyleg.

Roedd Dinas Rydd Danzig (Almaeneg: Freie Stadt Danzig; Pwyleg: Wolne Miasto Gdańsk) yn ddinas borthladd hunan-lywodraethol ar y Môr Baltig ac yn ddinas-wladwriaeth. Sefydlwyd y wladwriaeth ar 10 Ionawr 1920 fel rhan o ddyfarniadau Cytundeb Versailles yn 1919, a neilltuwyd dalfa'r ddinas i Gynghrair y Cenhedloedd. Roedd gan wladwriaeth newydd, Gwlad Pwyl hawl arbennig i ddefnyddio’r porthladd,[1] gan mai hwn oedd yr unig borthladd ar y Coridor Pwylaidd.

Dinas Rydd Danzig
Mathgwlad ar un adeg Edit this on Wikidata
PrifddinasGdańsk Edit this on Wikidata
Poblogaeth366,730 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 15 Tachwedd 1920 Edit this on Wikidata
AnthemFür Danzig Edit this on Wikidata
Iaith/Ieithoedd
  swyddogol
Almaeneg, Pwyleg Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
GwladDinas Rydd Danzig Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaGweriniaeth Weimar, Ail Weriniaeth Gwlad Pwyl, Gwlad Pwyl Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau54.4°N 18.66°E Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
Cyfnod daearegolY cyfnod rhwng y rhyfeloedd Edit this on Wikidata
Corff deddfwriaetholVolkstag Edit this on Wikidata
Map
Crefydd/Enwadyr Eglwys Lutheraidd Edit this on Wikidata
ArianPapiermark, Danzig gulden Edit this on Wikidata

Peidiodd y ddinas rydd â bodoli ar ôl 1939, pan feddiannwyd hi gan ddinas gan y Drydedd Reich. Ar ôl trechu'r Almaenwyr yn yr Ail Ryfel Byd ym 1945. Meddiannodd y Pwyliaid Danzig a'i ailenwi'n Gdansk.

Tiriogaeth

golygu
 
Danzig, wedi'i amgylchynu gan yr Almaen, Gwlad Pwyl a'r Môr Baltig.

Roedd tiriogaeth Dinas Rydd Danzig yn cynnwys dinas Danzig, yn ogystal â dinasoedd Sopot, Novi Dvor Gdansk, Novi Stavo, a 252 o bentrefi. Roedd yr ardal yn gorchuddio 1,966 cilomedr sgwâr ac yn cynnwys tref sba boblogaidd, Sopot (Zoppot yn Almaeneg).

Pwerau Pwylaidd

golygu

Cynrychiolwyd y ddinas rydd dramor gan lysgenhadon Gwlad Pwyl. Gwlad Pwyl oedd yn gweithredu’r rheilffordd sy’n cysylltu Dinas Rydd Danzig â Gwlad Pwyl. Trosglwyddwyd y post porthladd milwrol i'r Pwyliaid. Roedd dwy swyddfa bost yn y wlad, un yn cael ei gweithredu gan Swyddfa Bost Danzig a'r llall gan Swyddfa Bost Gwlad Pwyl.

Prif Gomisiynydd Cynghrair y Cenhedloedd

golygu

Roedd tiriogaethau gorfodol Cynghrair y Cenhedloedd yn cael eu llywodraethu gan aelod-wledydd yr Undeb, ond roedd Danzig a Saargebiet yn cael eu llywodraethu’n uniongyrchol gan Gynghrair y Cenhedloedd trwy gynrychiolwyr penodedig, yr Uchel Gomisiynwyr:[2]

 Vardas, pavardė Periodas Šalis
1 Reginald Thomas Tower 19191920   Y DU
2 Edward Lisle Strutt 1920   Y DU
3 Bernardo Attolico 1920   Yr Eidal
4 Richard Cyril Byrne Haking 19211923   Y DU
5 Mervyn Sorley McDonnell 19231925   Y DU
6 Joost Adriaan van Hamel 19251929   Yr Iseldiroedd
7 Manfredi di Gravina 19291932   Italy Yr Eidal
8 Helmer Rosting 19321934   Denmarc
9 Seán Lester 19341936   Gwladwriaeth Rydd Iwerddon
10 Carl Jakob Burckhardt 19371939   Swistir

Demograffeg

golygu
1,000 Gulden Danzig (1924) yn arddangos Neuadd y Ddinas

Yn 1919 roedd tua 375,000 o bobl yn byw yn y ddinas. Roedd 98% ohonynt yn siarad Almaeneg.[3] Roedd y 2% oedd yn weddill yn siarad Casiwbeg neu Bwyleg.

O dan delerau Cytundeb Versailles, pan wahanwyd dinas Danzig o'r Almaen, daeth ei holl drigolion yn ddinasyddion y Ddinas Rydd. Collodd yr Almaenwyr a oedd yn byw yn Danzig eu dinasyddiaeth Almaenig a bu'n rhaid iddynt fyw y tu allan i'r Ddinas Rydd er mwyn ei gwarchod.[4]

Poblogaeth y Ddinas wrth iaith, 1 Tachwedd 1923, yn ôl cyfrifiad Dinas Rydd Danzig
Cenedligrwydd Almaeneg Almaeneg a
Pwyleg
Pwyleg, Casiwbeg,
Maswreg
Rwsieg,
Iwcraineg
Hebraeg,
Iddeweg
Diddosbarth Cyfanswm
Danzig 327,827 1,108 6,788 99 22 77 335,921
Di-Danzig 20,666 521 5,239 2,529 580 1,274 30,809
Cyfanswm 348,493 1,629 12,027 2,628 602 1,351 366,730
Canran 95.03% 0.44% 3.28% 0.72% 0.16% 0.37% 100.00%

Gwleidyddiaeth

golygu

Ym mis Mai 1933 enillodd Plaid Gweithwyr Sosialaidd Genedlaethol yr Almaen (y Natsiaid) yr etholiadau dinas lleol, ond nid oedd ganddynt fwyafrif o ddwy ran o dair oedd yn angenrheidiol er mwyn gwneud newidiadau i gyfansoddiad Dinas Rydd Danzig. Cyhoeddodd y llywodraeth ar y pryd gyfreithiau gwrth-Semitaidd a gwrth-Babyddol yn erbyn Pwyliaid a Cashwbiaid lleol.

Erbyn 1936, roedd gan senedd y ddinas fwyafrif o'r blaid Natsïaidd lleol.[5] Cafodd cynnwrf i ailymuno â'r Almaen ei glywed yn uwch. Ond bu Gwlad Pwyl yn gyson yn erbyn newid statws Danzig. 1939 Ym mis Ebrill, nododd Comisiynydd Cyffredinol Gwlad Pwyl fod Gwlad Pwyl wedi ymrwymo i ymladd newid.[6]

Oherwydd gwrth-semitiaeth ac erledigaeth a gormes yr Almaen, ffodd llawer o Iddewon. Ar ôl goresgyniad yr Almaenwyr ar Wlad Pwyl ym 1939, diddymodd y Natsïaid y Ddinas Rydd ac ymgorffori'r ardal yn lReichsgau Danzig-Gorllewin Prwsia a ffurfiwyd yn ddiweddar. Dosbarthodd y Natsïaid y Pwyliaid a'r Iddewon oedd yn byw yn y ddinas fel is-ddynol ("Untermensch"), gan eu gwahaniaethu, eu gorfodi a'u llafur a'u difodi. Anfonwyd llawer i'w marwolaethau yng ngwersylloedd crynhoi'r Natsïaid, gan gynnwys Stutthof gerllaw (Sztutowo, Gwlad Pwyl bellach).[7]

Arweinyddion Dinas Rydd Danzig[2]

  Dancigo senato
llywyddion
Cychwyn Cadeiryddieth Gorffen Cadeiryddiaeth Plaid
1 Heinrich Sahm  6 Rhagfyr1920  10 Ionawr1931 di-blaid
2 Ernst Ziehm 10 Ionawr1931   20 Mehefin 1933 DAP - Plaid Gweithwyr yr Almaen
3 Hermann Rauschning  20 Mehefin 1933  23 Tachwedd1934 NSDAP
4 Arthur Karl Greiser  23 Tachwedd 1934 23 Awst 1939 NSDAP
  Arlywydd y Wladwriaeth
5 Albert Förster 23 Awst 1939 1 Medi1939 NSDAP

Cyfnod yr Ail Ryfel Byd

golygu

Yn dilyn arwyddo cytundeb gudd Cytundeb Molotov–Ribbentrop ym mis Awst 1939, fe ymosododd Hitler ar Wlad Pwyl ar 1 Medi 1939. Ar 2 Medi, y diwrnod ar ôl goresgyniad Gwlad Pwyl, pleidleisiodd y ddinas dros ddod yn rhan o'r Almaen.

Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, dinistriwyd 90 y cant o'r ddinas. Ar 30 Mawrth 1945, meddiannwyd y ddinas gan luoedd yr Undeb Sofietaidd. Amcangyfrifir erbyn 1945, bod mwy na 90% o boblogaeth brodorol y ddinas cyn 1939 wedi eu lladd neu ffoi.

Yn ystod Cynhadledd Potsdam, adroddwyd bod hen Ddinas Rydd Danzig yn rhan o Wlad Pwyl.

Dolenni allanol

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. Yale Law School. "The Versailles Treaty June 28, 1919 : Part III". The Avalon Project. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2008-02-14. Cyrchwyd 2007-05-03.
  2. 2.0 2.1 http://www.worldstatesmen.org/Poland.htm#Danzig
  3. Encyclopaedia Britannica Year Book, 1938
  4. Yale Law School. "The Versailles Treaty June 28, 1919 : Part III". The Avalon Project. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2008-02-14. Cyrchwyd 2007-05-03.
  5. Levine, Herbert S., Hitler's Free City: A History of the Nazi Party in Danzig, 1925–39 (University of Chicago Press, 1970), p. 102.
  6. Woodward, E.L., Butler, Rohan, Orde, Anne, editors, Documents on British Foreign Policy 1919–1939, 3rd series, vol.v, HMSO, London, 1952:25
  7. Blatman, Daniel (2011). The Death Marches, The Final Phase of Nazi Genocide. Harvard University Press. tt. 111–112. ISBN 978-0674725980.