Joachim von Ribbentrop

Gweinidog tramor Almaen Natsiaidd

Roedd Willy Ullrich Friedrich Joachim von Ribbentrop ond adnenbyd fel rheol fel Joachim von Ribbentrop yn Natsi Almaeneg, diplomydd a gwleidydd a chwaraeodd ran ffurfiannol ym mholisi tramor Almaen dan Adolf Hitler. Bedyddwyd Ullrich Willy Friedrich Joachim Ribbentrop (ganed Wesel, 30 Ebrill 1893 - marw Nuremberg, 16 Hydref 1946). Fe'i dienyddiwyd fel troseddwr rhyfel ar ôl yr Ail Ryfel Byd.

Joachim von Ribbentrop
Bundesarchiv Bild 183-H04810, Joachim von Ribbentrop (cropped) 2.jpg
GanwydUlrich Friedrich Wilhelm Joachim von Ribbentrop Edit this on Wikidata
30 Ebrill 1893 Edit this on Wikidata
Wesel Edit this on Wikidata
Bu farw16 Hydref 1946 Edit this on Wikidata
Nürnberg Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethyr Almaen Edit this on Wikidata
Galwedigaethgwleidydd, diplomydd, person milwrol Edit this on Wikidata
Swyddmember of the Reichstag of Nazi Germany, German Foreign Minister, ambassador of the German Reich Edit this on Wikidata
Plaid WleidyddolPlaid y Gweithwyr Sosialaidd Cenedlaethol Edit this on Wikidata
TadRichard Ribbentrop Edit this on Wikidata
MamJohanne Sophie Hertwig Edit this on Wikidata
PriodAnna Ribbentrop Edit this on Wikidata
PlantRudolf von Ribbentrop, Bettina von Ribbentrop, Ursula von Ribbentrop, Adolf Richard von Ribbentrop, Bertholdt von Ribbentrop Edit this on Wikidata
LlinachRibbentrop Edit this on Wikidata
Gwobr/auColer Urdd Isabella y Catholig, Bathodyn y Parti Aur, Y Groes Haearn, Order of the German Eagle, Danzig Cross, Order of Saints Cyril and Methodius, Order of the Most Holy Annunciation, Urdd y Seintiau Maurice a Lasarus, Order of the Crown of Italy, Urdd Rhosyn Wen y Ffindir, Order of Saint Stephen of Hungary Edit this on Wikidata
Llofnod
Joachim von Ribbentrop Signature.svg
Joachim von Ribbentrop
[Reichsminister]
Yn ei swydd
4 Chwefror 1938 – 30 Ebrill 1945
FührerAdolf Hitler
Rhagflaenwyd ganKonstantin von Neurath
Dilynwyd ganArthur Seyss-Inquart
Llysgennad yr Almaen i'r Deyrnas Gyfunol
Yn ei swydd
11 Awst 1936 – 4 Chwefror 1938
Penodwyd ganAdolf Hitler
Rhagflaenwyd ganLeopold von Hoesch
Dilynwyd ganHerbert von Dirksen

Rhwng 1938 a 1945, roedd yn Weinidog Materion Tramor yn Llywodraeth Adolf Hitler. Un o'i gampau pwysicaf oedd y cytundeb di-ymddygiad ymosodol rhwng yr Almaen Natsïaidd a'r Undeb Sofietaidd gomiwnyddol dan y teyrn Stalin yn 1939 a roddodd y rhyddid i'r Almaen a'r Undeb Sofietaidd ymosod a rhannu Gwlad Pwyl a gan hynny, ddechrau cyflafan yr Ail Ryfel Byd.

MagwraethGolygu

Ganwyd Von Ribbentrop yn fab i swyddog yn y fyddin. Ar ôl graddio o'r ysgol uwchradd, aeth i Ganada, lle cafodd swydd fel cynrychiolydd gwerthu. Ar ddechrau'r Rhyfel Byd Cyntaf dychwelodd i'r Almaen i wasanaethu yn y fyddin. Ar ôl y Rhyfel bu’n gweithio yn y fasnach win am ychydig flynyddoedd. Yn 1927 mabwysiadodd y rhagfynegiad bonheddig 'von' gan fodryb. Priododd Anneliese Henkell, dynes gyfoethog ac aelod o dylwyth Almaenig adnabyddus, a barodd iddo godi ymhellach ar yr ysgol gymdeithasol. Roedd "Ribs snob" yn un o'i lysenwau.

Gyrfa NatsïaiddGolygu

 
Gweinidog y Reich, Joachim von Ribbentrop mewn ffurfwisg SS-Gruppenführer, 1938

Ym 1932 ymunodd Von Ribbentrop â Plaid Genedlaethol Sosialaidd Gweithwyr yr Almaen (NSDAP) dan arweiniad Adolf Hitler. Cynigodd Von Ribbentrop helpu Hitler i gysylltu â Franz von Papen, Canghellor yr Almaen ar y pryd. Ar ôl i Hitler gael ei benodi'n Ganghellor, daeth Ribbentrop yn un o'i gynghorwyr materion tramor. Ym 1934, fe'i penodwyd yn Gomisiynydd Diarfogi'r Reich (Genefa). O 1935 - 1938 bu'n llysgennad o 1936 yn gweithio yn Llundain. Llwyddodd i drafod aildrefnu Llynges yr Almaen (1935). Chwaraeodd ran flaenllaw yn y Cyfamod Dur rhwng yr Almaen a'r Eidal Ffasgaidd. Yn 1936 luniodd y Gytundeb Gwrth-Comintern a ddaeth i rym rhwng yr Almaen a Japan.

Roedd von Ribbentrop yn dalentog iawn yn ieithyddol (roedd yn siarad Saesneg a Ffrangeg rhugl), ond gyda'i ymddygiad llwyddodd i aflonyddu ar eraill yn rheolaidd. Er enghraifft, daeth â saliwt Hitler at frenin Prydain ac fe'i gelwid yn Llundain fel 'Brickendrop' (ystyr 'gollwng brics' yw gwneud blunder). Cymerodd ran yn y bygythiad o Arlywydd Tsiecoslofacia, Hácha. Doedd Galeazzo Ciano ddim yn hoff ohono..

Yr Ail Ryfel BydGolygu

Ym 1938 penodwyd von Ribbentrop yn Ysgrifennydd Gwladol. Bu'n cynrychioli'r Reich (oedd erbyn hyn yn cynnwys Awstria) wedi'r Anschluß yn Cyflafareddiadau Fienna, ble dyranwyd tiriogaeth Tsiecoslofacia i Hwngari dan arweiniad y Rhaglaw Miklós Horthy yn 1938 ac yna rhan ogleddol Transylfania i Hwngari yn Ebrill 1939.

Yn rhinwedd y swydd honno, cwblhaodd gytundeb di-ymddygiad ymosodol (a elwir hefyd yn Cytundeb Molotov–Ribbentrop) rhwng yr Almaen â'r Undeb Sofietaidd ar 23 Awst 1939. Wedi'r cytundeb, llwyddodd yr Almaen i oresgyn Gwlad Pwyl ym mis Medi 1939 a dechreuodd yr Ail Ryfel Byd. Dyma oedd uchafbwynt gyrfa von Ribbentrop.

Ym 1940, fe negododd y Cytundeb Tridarn gyda Japan a'r Eidal, gyda'r tair gwlad yn cytuno i gefnogi ei gilydd yn erbyn Unol Daleithiau America. Roedd o blaid cadw perthynas dda gyda'r Undeb Sofietaidd ac yn erbyn Cyrch Barbarosa sef yr ymosodiad ar yr Undeb Sofietaidd yn 1941. Yn hydref 1941, yn sgil polisi Lend-Lease sef cymorth American i Brydain a diwyddiadau ac ymosodiadau mynych rhwng llongau tanfôr yr Almaen yr U-boot yng Nghefnfor yr Iwerydd a'r llongau rhyfel UDA oedd yn amddiffyn llongau masnach Prydain, gweithiodd Ribbentrop yn ddygn i danseilio trafodaethau rhwng yr UDA ac Ymerodraeth Siapan ac er mwyn hyrwyddo ymosodiadau gan Siapan ar yr UDA.[1] Gwnaeth ei orau glas i gefnogi datganiad rhyfel yr Almaen ar yr Unol Daleithiau wedi ymosodiad Siapan ar Pearl Harbour ar ddiwedd 1941.[2]

Wedi diwedd 1941 ac am gweddill ei ddeiliadaeth, ni chwaraeodd ran fawr bellach ar y sîn wleidyddol. Yn 1945 cafodd ei roi o'r neilltu gan y Llyngesydd Dönitz. Cafodd ei arestio yn Flensburg gan luoedd Gwlad Belg a thri milwr o Brydain. Yn 1946, fe'i rhoddwyd ger bron y llys yn Nhreial Nuremberg gydag un ar hugain o arweinwyr Natsïaidd eraill yr Almaen. Cyflwynodd yr erlynwyr dystiolaeth ei fod yn chwarae rhan weithredol yn y gwaith o gynllunio ymddygiad ymosodol yr Almaen ac alltudio Iddewon i'r gwersylloedd marwolaeth, yn ogystal â phledio am ladd awyrenwyr Americanaidd a Phrydain a gafodd eu saethu i lawr dros yr Almaen Natsïaidd. Fe'i cafwyd yn euog a'i ddedfrydu i'w grogi. Fe'i dienyddiwyd ar 16 Hydref 1946 yn Nuremberg.

Am rhywun oedd wedi ei benodi'n ddiplomat, roedd von Ribbentrop yn rhyfeddol o amhoblogaidd ymysg ei gyfoedion ac yn fynych yn pechu uchelswyddogion gwledydd eraill gyda'i agwedd trahaus a difeddwl.[3]

Gyrfa FilwrolGolygu

Dolenni AllannolGolygu

Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:
Mae gan Wikiquote gasgliad o ddyfyniadau sy'n berthnasol i:

CyfeiriadauGolygu