Gwneir dŵr rhosod drwy drwytho petalau rhosod mewn dŵr. Yn ogystal â hyn, gall dŵr rhosod gyfeirio at ran hydrosol distyllad petalau rhosod, sgil-gynnyrch gwneud olew rhosod ar gyfer persawr. Defnyddir dŵr rhosod hefyd i roi blas i fwyd, mewn colur a meddyginiaethau ac at ddibenion crefyddol trwy Asia ac Ewrop.

Gwneir dŵr rhosod â llaw yn ninas Meymand, Firuzabad, Fars, Iran

Gwneir surop rhosod (sy'n wahanol i surop egroes, sef, surop o ffrwythau'r rhosyn) o ddŵr rhosod a siwgr. Rhyw fath o stwnsh rhosod yw gulkand o Dde Asia.

Mae Canol Iran yn gartref i ŵyl flynyddol Golabgiri bob gwanwyn. Mae miloedd o dwristiaid yn heidio i'r ardal i ddathlu cynhaeaf y rhosod i greu'r dŵr neu golâb (گلاب).[1][2] Iran sydd yn cynhyrchu 90% o ddŵr rhosod y byd.[3]

 
Potel dŵr rhosod o'r 12fed ganrif o Iran (arian gydag aur a nielo, Oriel Gelf Freer)

Ers amser maith, mae rhosod yn cael eu defnyddio mewn meddyginiaeth, bwyd ac fel ffynhonnell o bersawr.[4]

Gwneir persawr rhosynnaidd o olew rhosod, sy'n gymysgedd o olewau hanfodol anweddol a geir drwy falu petalu rhosod a'u distyllu ag ager. Sgil-gynnyrch y broses hon yw dŵr rhosod.[5] Efallai mai ym Mhersia y dechreuwyd tyfu blodau pêr i greu persawr, gan gynnwys dŵr rhosod,[6][7][8] lle y rhoddwyd yr enw gulāb (گلاب), o gul (گل rhosyn) and ab (آب dŵr – gweler afon yn Gymraeg am air o'r un tarddiad). Mabwysiadwyd y term i Roeg Canoloesol fel zoulápin (ζουλάπιν). Mireiniwyd y broses o greu dŵr rhosod drwy ddistylliad ager gan gemegwyr o Bersia ac Arabia yn y byd Islamaidd Canoloesol a arweiniodd at ddefnydd mwy effeithlon ac economaidd ohono mewn diwydiannau persawr.[9]

Defnydd

golygu
 
Ffatri fach sy'n creu dŵr rhosod yn Kashan, Iran

Bwyd a diod

golygu

Weithiau, mae dŵr rhosyn yn cael ei ychwanegu at lemonêd. Mae'n aml yn cael ei ychwanegu at ddŵr hefyd i guddio arogleuon a blasau annymunol.

Yng nghoginio De Asia, mae dŵr rhosod yn gynhwysyn cyffredin mewn melysion megis laddu, gulab jamun a peda.[10] Hefyd, mae'n rhoi blas i laeth, lassi, pwdin reis a seigiau eraill sy'n cynnwys llaeth.

Ym Malaysia a Singapore, cymysgir dŵr rhosod melys â gwawr goch gyda llaeth i greu diod binc felys o'r enw bandung.

Roedd pobyddion America ac Ewrop yn defnyddio dŵr rhosod yn aml tan y 19eg ganrif, pan ddaeth fanila yn boblogaidd. Yn Swydd Efrog, mae hanes hir o ddefnyddio dŵr rhosod i roi blas i darten geuled Swydd Efrog (Yorkshire curd tart), pwdin lleol arbennig. Yn Iran, fe'i ceir mewn te, hufen iâ, bisgedi a bwydydd melys eraill.

Yng ngheginau'r Dwyrain Canol, defnyddir dŵr rhosod mewn gwahanol seigiau, yn enwedig mewn rhai melys fel lokum (Turkish delight),[11] nougat a baklava. Mae'n rhoi blas i farsipán ers amser maith hefyd[12] ac yng Nghyprus, mae'r fersiwn Cypraidd o hwn o'r enw makalepi (μαχαλεπί), yn defnyddio dŵr rhosod (rodhóstagma ροδόσταγμα). Defnyddir dŵr rhosod mewn bwyd halâl yn lle gwin coch ac alcohol arall. Er enghraifft, oherwydd y gwaharddiad ar yfed alcohol, dŵr rhosod sy'n a ddefnyddir yn lle siampên ar bodiwm Grand Prix Bahrain a Grand Prix Abu Dhabi.[13] Hefyd, mae Uwch Gynghrair Lloegr yn cynnig diod sy'n seiliedig ar ddŵr rhosod yn lle siampên wrth wobrwyo chwaraewyr Mwslimaidd.[14]

Colur a meddyginiaeth

golygu

Yn Ewrop Ganoloesol, roedd pobl yn golchu eu dwylo â dŵr rhosod wrth y bwrdd gwledda.[15] Mae dŵr rhosod yn rhan arferol o bersawr hefyd.[16] Mae eli o ddŵr rhosod ointment yn cael ei ddefnyddio fel meddalydd croen ac weithiau mewn colur megis hufen oer, arlliwyddion ac eli golchi wyneb. [16] Golyga ei briodweddau gwrthlidiol ei fod yn dda yn erbyn acne rhosynnaidd ac ecsema.[16]

Mae rhai pobl yn India yn defnyddio dŵr rhosod fel chwistrell i'r wyneb fel persawr a lleithydd, yn enwedig yn ystod y gaeaf. Mae'n aml yn cael ei ysgeintio mewn priodasau Indiaidd i groesawu gwesteion. 

Crefydd

golygu

Defnyddir dŵr rhosod yn seremonïau crefyddol Hindŵaeth,[10] Islam,[10] Cristnogaeth (yn yr Eglwys Uniongred Ddwyreiniol),[17] Zoroastriaeth a'r grefydd Bahá'í (yn Kitab-i-Aqdas 1:76 ).

Cyfansoddiad

golygu

Gan ddibynnu ar y tarddiad a'r dull cynhyrchu, ceir dŵr rhosod o sepalau a phetalau rhosod Damascus trwy ddistylliad ager. Gellir canfod y cydrannau monoterpenoid ac alcanaidd â chromatograffaeth nwy: yn bennaf citronelol, nonadecan, geraniol ac alcohol phenyl ethyl, a hefyd henicosan, 9-nonadecen, eicosan, linalool, sitronelyl asetad, methylewgenol, heptadecan, pentadecan, docosan, nerol, disilocsan, octadecan a phentacosan. Fel arfer, alcohol phenylethyl sy'n gyfrifol am arogl dŵr rhosod ond nid yw'n bresennol mewn cynhyrchion dŵr rhosod bob tro.

Lluniau

golygu

Gweler hefyd

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. "Golāb". iranicaonline.org. Encyclopaedia Iranica Foundation. Cyrchwyd 1 June 2021.
  2. "Rosewater festivals draw visitors to central Iran". Tehran Times (yn Saesneg). 3 May 2018. Cyrchwyd 1 June 2021.
  3. https://plus.google.com/113403756129291503583 (2019-06-15). "Iran Meets 90% of Global Rosewater Demand". Financial Tribune (yn Saesneg). Cyrchwyd 2021-04-16.
  4. "GOLĀB". iranicaonline.org. Cyrchwyd 2021-03-24.
  5. Adamson, Melitta Weiss (2004-01-01). Food in Medieval Times. t. 29. ISBN 9780313321474.
  6. Adamson, Melitta Weiss (2004). Food in Medieval Times (yn Saesneg). Greenwood Publishing Group. t. 29. ISBN 978-0-313-32147-4. Rose petals were already used in Persian cookery to perfume and flavor dishes long before the technique of distilling rose water was developed. The person commonly credited with the discovery of rose water was the tenth-century Persian physician Avicenna.
  7. Marks, Gil (2010). Encyclopedia of Jewish Food. HMH. t. 791. ISBN 978-0-544-18631-6. In 800 CE, the Arab scholar Jabir ibn Hayyan in-vented an improved still. About two centuries later, the Bukharan-born physician ibn Sina (980-1037), whose name was latinized as Avicenna, discovered how to use the still to extract the essential oil from flower petals. This allowed for the steam distillation of floral waters, particularly rose water
  8. Boskabady, Mohammad Hossein; Shafei, Mohammad Naser; Saberi, Zahra; Amini, Somayeh (2011). "Pharmacological Effects of Rosa Damascena". Iranian Journal of Basic Medical Sciences 14 (4): 295–307. ISSN 2008-3866. PMC 3586833. PMID 23493250. http://www.pubmedcentral.nih.gov/articlerender.fcgi?tool=pmcentrez&artid=3586833. "The origin of Damask rose is the Middle East and some evidences indicate that the origin of rose water is Iran"
  9. Ahmad Y. al-Hassan, Transfer Of Islamic Technology To The West, Part III: Technology Transfer in the Chemical Industries, History of Science and Technology in Islam.
  10. 10.0 10.1 10.2 KRISHNA GOPAL DUBEY (27 September 2010). HE INDIAN CUISINE. ISBN 9788120341708.
  11. "Rosewater recipes".
  12. Adamson, Melitta Weiss (2004-01-01). Food in Medieval Times. t. 89. ISBN 9780313321474.
  13. Agency, Reuters News (2017-07-30). "Champagne to be sprayed on the F1 podium again after two years of sparkling wine". The Telegraph (yn Saesneg). ISSN 0307-1235. Cyrchwyd 2020-01-14.
  14. "PL offers 'rosewater and pomegranate' drink instead of champagne to avoid offending Muslim players". Yahoo! News. 26 August 2012. Cyrchwyd 24 October 2014.
  15. Food in Medieval Times By Melitta Weiss Adamson
  16. 16.0 16.1 16.2 "Rose water: Benefits, uses, and side effects". Medical News Today (yn Saesneg). Cyrchwyd 2018-07-03.
  17. "Journey through Holy Week & Pascha". Holy Apostles Greek Orthodox Church. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-03-06. Cyrchwyd 2016-06-07.

Dolenni allanol

golygu