D. W. Griffith

cyfarwyddwr ffilm, cynhyrchydd a sgriptiwr ffilm a aned yn La Grange yn 1875
(Ailgyfeiriad o D.W. Griffith)

Cyfarwyddwr ffilm Americanaidd oedd David Llewelyn Wark Griffith (22 Ionawr 1875 - 23 Gorffennaf 1948[1]), a anwyd yn La Grange, Kentucky, UDA[2][3]. Roedd yn fab i Gymro[4] a chyn-swyddog yn y fyddin y Confederate (Y Cyrnol "Roaring Jake" Griffith) a fu farw (yn 1885) o glwyfau a gafodd yn ystod Rhyfel Cartref America pan oedd Griffith yn 10 oed. Fe'i hystyriwyd yn un o dadau'r ffilm naratif[5].

D. W. Griffith
GanwydDavid Llewelyn Wark Griffith Edit this on Wikidata
22 Ionawr 1875 Edit this on Wikidata
La Grange Edit this on Wikidata
Bu farw23 Gorffennaf 1948 Edit this on Wikidata
Hollywood Edit this on Wikidata
DinasyddiaethUnol Daleithiau America Edit this on Wikidata
Galwedigaethcyfarwyddwr ffilm, actor, cynhyrchydd ffilm, sgriptiwr, golygydd ffilm, cynhyrchydd gweithredol, cyfarwyddwr Edit this on Wikidata
Adnabyddus amThe Birth of a Nation, Intolerance Edit this on Wikidata
TadJacob Wark Griffith Edit this on Wikidata
PriodLinda Arvidson Edit this on Wikidata
Gwobr/auGwobr Anrhydeddus yr Academi, seren ar Rodfa Enwogion Hollywood Edit this on Wikidata
The Adventures of Dollie (1908)

Yn ei ugeiniau cychwynnodd gyrfa, aflwyddiannus braidd, ar y llwyfan. Yn 1907, yn dilyn methiant ei gynhyrchiad A Fool and a Girl, fe drodd ei olygon at Hollywood, gan ysgrifennu ag actio i gwmnïoedd Edison a Biograph. Yn 1908 cafodd swydd fel cynhyrchydd gan Biograph a cychwynnodd ei yrfa go iawn. Hyd at 1913 cynhyrchodd dros 400 o ffilmiau i'r cwmni - gan orffen gyda Judith of Bethulia (ffilm 4 rîl a rhyddhawyd yn 1914). Yn ystod y cyfnod hwn datblygodd ei grefft yn aruthrol - yn arbennig agweddau golygu a pherfformio. Daeth yn enwog am olygu crefftus yr "achub munud olaf". Cafodd yr agweddau yma dylanwad mawr ar y diwydiant - gan wneud Biograph yn flaengar iawn[5].

Yn 1913 gadawodd Griffith Biograph i dorri ei gŵys ei hun. Ar ôl cyfnod byr o arbrofi, cynhyrchodd The Birth of a Nation (a rhyddhawyd yn Ionawr 1915), a sicrhaodd ei le yn y llyfrau hanes. Hon oedd y ffilm hiraf a mwyaf cymhleth erioed ar y pryd (ryw 3 awr o hyd dros 12 rîl). Seiliwyd y naratif (sy'n cynnwys elfennau hanesyddol a dychmygol am Ryfel Cartref America a'r cyfnod yn syth ar ei ôl) ar nofel a drama gan Thomas Dixon Jr., o'r enw The Clansman. (The Clansman oedd enw gwreiddiol y ffilm, hefyd.) Fel mae'r enw hwn yn awgrymu, mae gryn ystyriaeth garedig o'r Klu Klux Klan yn y ffilm. Yn wir fe atgyfnerthwyd y gymuned hiliol honno yn sylweddol gan ei ymddangosiad. Oherwydd hyn, erys y ffilm yn un dadleuol iawn (fel y bu ar y pryd) - ac, o'r herwydd, yn hanesyddol. (Fe'i dyfarnwyd o bwys hanes diwylliant America gan Lyfrgell Cyngres yr Unol Daleithiau yn 1992.) Am weddill ei yrfa bu Griffith yn amddiffyn a gwneud yn iawn am yr agwedd hon o'i gampwaith technegol. Y cam gyntaf oedd ei ffilm nesaf, Intolerance (1916), a llwyddodd i fod yn hyd yn oed yn fwy mawreddog ym mhob ffordd. Fel yr awgrymir gan y teitl, roedd hwn yn ymgais uniongyrchol gan Griffith i ateb yr honiad ei fod yn ddyn hiliol. Yn y drydedd o'i ffilmiau gorau, Broken Blossoms (1919), aeth Griffith un cam ymhellach i ateb y feirniadaeth. Fe sicrhaodd mai o Tsieina y daw cymeriad positif y ffilm (Cheng Huan). Er dyn gwyn (Richard Barthelmess) a'i hactiodd ![5].

Set Intolerance (1919). Ail grëwyd muriau Babylon llawn maint ar gyfer cynhyrchiad D.W. Griffith

Griffiths, ynghyd â Charlie Chaplin, Mary Pickford a Douglas Fairbanks, sefydlodd stiwdio United Artists yn 1919[6].

Er i Griffith dal i gynhyrchu ffilmiau am ddegawd arall (roedd ei ddau olaf yn "talkies"), roedd ei oes aur ar ben. Ni lwyddodd i symud gyda'r oes - roedd ei galon o hyd ym myd sentimental y 19 ganrif. Collodd arian, ac ar ôl Orphans of the Storm (1921) nid oedd yn medru fforddio cyflogi ei "protege" Lillian Gish[7] (a gafodd gyrfa ddisglair iawn i'r 1950au), hyd yn oed[5].

Roedd Griffith yn aelod o’r Seiri Rhydd[8]. Priododd Linda Arvidson yn 1906 (ysgarwyd 1936) ac Evelyn Baldwin yn 1936 (ysgarwyd 1947)[3].

Methodd gyrfa Griffith fel cynhyrchydd goroesi methiant The Struggle (1931) ac yn fuan fe'i hanghofiwyd gan ei gynulleidfaoedd[5]. Bu farw'n unig. Er i'w gyd-weithwyr ym myd y ffilm ei barchu am ei gyfraniad allweddol i ddatblygiad y ffilm, ychydig iawn a ddaeth i dalu gwrogaeth iddo mewn cyfarfod coffa yn Hollywood ar ôl ei farw yno ar Orffennaf 23, 1948. Fe'i claddwyd ym mynwent Eglwyd Methodisdaidd Mount Tabor yn Centerfield, Kentucky[9].


Ffilmiau golygu

  • 1908-1913: Ffilmiau byr dwy-rîl yn stiwdios Biograph (dros 400 ohonynt: 1908, 61; 1909, 141; 1910, 87; 1911, 70; 1912, 67; 1913, 30), a restrir yn llyfr Robert Henderson, D.W. Griffith: The Years at Biograph.
  • 1913: Judith of Bethulia.
  • 1914: The Battle of the Sexes, The Escape, Home Sweet Home, The Avenging Conscience, The Mother and the Law.
  • 1915: The Birth of a Nation.
  • 1916: Intolerance.
  • 1918: Hearts of the World, The Great Love, The Greatest Thing in Life.
  • 1919: A Romance of Happy Valley, The Girl Who Stayed at Home, Broken Blossoms, True Heart Susie, The Fall of Babylon, The Mother and the Law, Scarlet Days, The Greatest Question.
  • 1920: The Idol Dancer, The Love Flower, Way Down East.
  • 1921: Dream Street, Orphans of the Storm.
  • 1922: One Exciting Night.
  • 1923: The White Rose.
  • 1924: America; Isn't Life Wonderful?.
  • 1925: Sally of the Sawdust, That Royale Girl.
  • 1926: The Sorrows of Satan.
  • 1928: Drums of Love, The Battle of the Sexes.
  • 1929: Lady of the Pavement.
  • 1930: Abraham Lincoln.
  • 1931: The Struggle.

Cyfeiriadau golygu

  1. "David W. Griffith, Film Pioneer, Dies; Producer Of 'Birth Of Nation,' 'Intolerance' And 'America' Made Nearly 500 Pictures Set, Screen Standards Co-Founder Of United Artists Gave Mary Pickford And Fairbanks Their Starts". New York Times. Gorffennaf 24, 1948. |access-date= requires |url= (help)
  2. Drew, William M. (Awst 10, 2002). "D. W. Griffith (1875-1948)". Gilda Tabarez. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2017-11-08. Cyrchwyd Ionawr 16, 2020.
  3. 3.0 3.1 Kaminsky, Michael. "D.W. Griffith". IMDb. Cyrchwyd Ionawr 16, 2020.
  4. Cota, Alfred "Ed Moch" (Mai 28, 2017). "LD. NN Griffith (Barrington/Brayington)". geni.com. Cyrchwyd Ionawr 16, 2020.
  5. 5.0 5.1 5.2 5.3 5.4 Nowell-Smith, Geoffrey (gol) (1996). The Oxford History of World Cinema. Oxford: Gwasg Prifysgol Rhydychen. ISBN 0198742428.
  6. Siklos, Richard (Mawrth 4 2007). "Mission Improbable: Tom Cruise as Mogul". New York Times. Cyrchwyd Ionawr 16 2020. Check date values in: |access-date=, |date= (help)
  7. Tony Fontana, Denny Jackson. "Lillian Gish". IMDb. Cyrchwyd Ionawr 16, 2020.
  8. "TODAY in Masonic History: David Llewelyn Wark "D. W." Griffith is Born". masonrytoday.com. Cyrchwyd Ionawr 16, 2020.
  9. Schickel, Richard (1996). D.W. Griffith: An American Life. Hal Leonard Corporation. t. 31. ISBN 087910080X.


   Eginyn erthygl sydd uchod am Americanwr neu Americanes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
  Eginyn erthygl sydd uchod am gyfarwyddwr ffilm. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.