D. C. Harries
Ffotograffydd oedd David Harries (c.1866–1940). Fe'i adnabyddwyd fel D. C. Harries, er nad oedd yr 'C' yn rhan o'i enw swyddogol - fe'i hychwanegodd er mwyn ei wahaniaethu oddi wrth yr holl 'David Harries' eraill yn Llandeilo.
D. C. Harries | |
---|---|
Ganwyd | 1866 |
Bu farw | 1940 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | ffotograffydd |
Cychwynodd ei fusnes ffotograffeg yn 1888 pan oedd yn 22 oed, gan agor stiwdio ar Stryd Caerfyrddin, Llandeilo. Erbyn 1914 roedd wedi symud i Stryd Rhosmaen yn y dref ac roedd ganddo hefyd stiwdio fechan yn Stryd y Neuadd, Rhydaman. Ond erbyn 1926, roedd wedi rhoi'r gorau i'r stiwdio yn Rhydaman.
Roedd ganddo 4 mab, a newidiodd enw'r busnes i 'D. C. Harries a'i feibion', gan agor cangen yn Llanymddyfri. Gadawyd casgliad negyddion D. C. Harries i Lyfrgell Genedlaethol Cymru yn ewyllys Hugh Newton Harries, mab olaf D. C. Harries i oroesi, yn 1976. Argraffwyd nifer o'r ffotograffau, gan gynnwys llun o D. C. Harries a'i deulu, yn llyfr Iestyn Hughes, D. C. Harries - Casgliad o Ffotograffau.
Bu D. C. Harries farw yn 1940 yn 75 oed.
Llyfryddiaeth
golyguR. Iestyn Hughes, Casgliad o ffotograffau D. C. Harries, 1996