Ffotograffiaeth

(Ailgyfeiriad o Ffotograffydd)

Y broses o wneud lluniau trwy ddefnyddio golau yw ffotograffiaeth (o'r Groeg: φωτός, photos: "golau" a graphos γραφή sef "llun" neu "olau"), gan ddefnyddio camera.[1] Mae'n grefft i rai, difyrwaith i eraill, a hefyd caiff ei ddefnyddio ar gyfer trosglwyddo gwybodaeth, e.e. mewn newyddiaduriaeth i gofnodi digwyddiadau. Mae pobol yn cadw lluniau o bapur neu ar ffilm er enghraifft. Ceir ffotograffiaeth ffasiwn, ffotograffiaeth dogfenol, ffotograffiaeth crefft a.y.b. Erbyn heddiw mae'r rhan fwyaf o gamerau a werthir yn gamerau digidol.

Lens a mowntin camera

Yn 1834, yn Campinas, Brasil, sgwennodd y paentiwr a'r dyfeisiwr Ffrengig Hercules Florence y gair "photographie" yn ei ddyddiadur; dyma oedd y tro cyntaf i'r gair gael ei ysgrifennu mewn unrhyw iaith.

Ffotograffiaeth yng Nghymru

golygu

Dwy flynedd wedi dyfeisio ffotograffiaeth tynnodd y Parch Calvert Richard Jones y ffotograff cynharaf a gofnodwyd yng Nghymru. Tynnwyd ef ar y 9fed o Fawrth 1841, sef llun o Gastell Margam, tŷ ei gyfaill cefnog Christopher Rice Mansel Talbot. Defnyddiodd ddull o'r enw "daguerroteip". Roedd Calvert yn un o gylch o ffotograffwyr cynnar yn Abertawe a oedd yn troi o amgylch y diwydiannwr John Dillwyn Llewelyn o Benlle’r-gaer.[2]

 
Plat daguerreotype o Gastell Margam a dynnwyd gan y Parch Calvert Richard Jones, sef y ffotograff cynatf i'w gymryd yng Nghymru, mae'n debyg a hynny ar y 9fed o Fawrth 1841. Mae'r llun hwn o safon uchel iawn (am ei gyfnod) ac yn bwysig yn hanes ffotograffiaeth y byd.

Dyfeisiodd William Henry Fox Talbot broses ffotograffig arall a oedd yn fwy llwyddiannus. Gan ddefnyddio negatifs papur, roedd proses Talbot yn caniatáu i nifer o gopiau gael eu gwneud. Roedd Talbot yn gefnder i Emma, gwraig John Dillwyn Llewelyn. Daeth John Dillwyn Llewelyn a’i deulu yn arloeswyr cynnar ffotograffiaeth yn ystod yr 1840au a 1850au.

Mae gan y Llyfrgell Genedlaethol dros 800,000 o ffotograffau sy’n gysylltiedig â Chymru.

Yn 1863 dechreuodd John Thomas werthu cartes des visite o enwogion Cymreig y dydd. Roedd hefyd yn tynnu ffotograffau o bobl gyffredin, yn aml wrth eu gwaith. Cofir amdano fwyaf heddiw am ei olygfeydd topograffig. Mae dros 3,000 o ffotograffau John Thomas yn y Llyfrgell Genedlaethol.

Ffotograffwyr nodedig

golygu

Ymhlith ffotograffwyr mawr y byd mae:

Gweler hefyd

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. φάος, Henry George Liddell, Robert Scott, A Greek-English Lexicon, on Perseus
  2. Gwefan y Llyfrgell Genedlaethol Cymru; adalwyd 2 Medi 2013.
Chwiliwch am ffotograffiaeth
yn Wiciadur.