DDL intercettazioni
Mesur a roddwyd o flaen Senedd yr Eidal yn 2011 yw DDL intercettazioni (Eidaleg am "Fesur Rhyng-gipio"). Bydd yn ceisio amddiffyn preifatrwydd dinasyddion trwy gyfyngu ar "dapio" ffonau gan y llysoedd.
Enghraifft o'r canlynol | mesur |
---|---|
Gwladwriaeth | yr Eidal |
Mae paragraff 29 o'r mesur wedi denu anghydfod. Bydd y darn hwn o'r ddeddfwriaeth yn galluogi unrhyw un sy'n credu ei fod wedi ei dramgwyddo, gan gynnwys gwefanau, i orfodi i gywiriad gael ei gyhoeddi ar yr un wefan o fewn 48 awr a heb unrhyw werthusiad o'r cais gan farnwr. Mewn ymateb i hyn, blanciodd y Wicipedia Eidaleg ei holl erthyglau rhwng 4 a 6 Hydref 2011.