DEMO
Mudiad pwyso yw Demokrazia Euskal Herriarentzat neu DEMO (hefyd DEMOAK) ("Democratiaeth i Wlad y Basg") ar gyfer hawliau siaradwyr Basgeg yn Iparralde (rhan ogleddol Gwlad y Basg sydd yn Ffrainc). Ffurfiwyd y mudiad yn y flwyddyn 2000.
Enghraifft o'r canlynol | mudiad gwleidyddol |
---|---|
Dechrau/Sefydlu | 2000 |
Nod y mudiad
golygu- Bod llywodraeth Ffrainc yn datblygu polisi iaith effeithiol ar gyfer y defnydd o'r Fasgeg o fewn addysg ac yn gyffredinol.
- Sefydlu polisi ar gyfer yr holl sefydliadau yng ngogledd Gwlad y Basg, gan greu Department Basgaidd newydd yno.
- Bod hawliau carcharorion gwleidyddol Basgaidd yn cael eu parchu, fel eu bod yn cael eu lleoli yn agos i'w cartrefi (fel rheol cânt eu gwasgaru ar hyd a lled Ffrainc a Sbaen, yn groes i ddeddfau cenedlaethol, Ewropeaidd, a rhyngwladol).
Tactegau
golyguMae'r mudiad yn dilyn athroniaeth dull di-drais o ymgyrchu. Yn aml mae gweithgareddau'r mudiad yn cyfuno protest, difrod troseddol a chelfyddyd. Yn y gorffennol mae hyn wedi cynnwys:
- Addurno'r ochr y ffordd i Ascain-Saint-Jean-de-Luz am 3 cilomedr gyda 500 o luniau carcharorion gwleidyddol Basgaidd sydd wedi eu gwasgaru mewn carchardai ar hyd a lled Ffrainc a Sbaen.
- Atal awyren rhag gadael maes awyr Biarritz, drwy gadwyno ei holwynion.
- Atal y TGV rhwng Hendaia a Paris wrth i 20 o brotestwyr gadwyno eu hunain i'r cledrau.
Gweler hefyd
golygu- Cymdeithas yr Iaith Gymraeg - Cymraeg
- Ai-ta! - Llydaweg
Dolen allanol
golygu- (Basgeg) / (Sbaeneg) / (Ffrangeg) Gwefan DEMO