Iparralde
rhan o ogledd-ddwyrain Gwlad y Basg sydd o fewn Ffrainc
Iparralde (Basgeg: Iparralde, Ffrangeg Pays basque français) yw'r rhan honno o ogledd ddwyrain Gwlad y Basg sydd o fewn Ffrainc. Ystyr "Iparralde" yw "yr ochr ogleddol"; gelwir y rhan o Wlad y Basg sydd yn Sbaen yn Hegoalde, "yr ochr ddeheuol". Mae'n ffurfio rhan orllewinol département Pyrénées-Atlantiques.
Math | ardal ddiwylliannol |
---|---|
Poblogaeth | 301,389 |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Gwlad y Basg, Pyrénées-Atlantiques |
Sir | Pyrénées-Atlantiques |
Gwlad | Gwlad y Basg Ffrainc |
Arwynebedd | 2,956 km² |
Cyfesurynnau | 43.321619°N 1.349944°W |
Mae'n cynnwys tair talaith:
- Nafarroa Isaf (Nafarroa Beherea mewn Basgeg, Basse-Navarre yn Ffrangeg), 1,284 km².
- Lapurdi (Labourd mewn Ffrangeg), 800 km².
- Zuberoa (Soule mewn Ffrangeg), 785 km².
Yn ôl ymholiad yn 2001, roedd 24.7% o'r boblogaeth yn siarad Basgeg, a 11.5% arall yn ei deall.