Daeargrynfeydd Herat, 2023
Ar 7 Hydref 2023 tarwyd Talaith Herat, yng ngorllewin Affganistan, gan ddwy ddaeargryn ar raddfa 6.3. Cofnodwyd y ddaeargryn gyntaf am 11:11 amser lleol (AFT), a theimlwyd yr ail gryniad 31 o funudau'n ddiweddarach. Lladdwyd dros 1000 o bobl, ac anafwyd 2000 arall. Teimlwyd rhyw saith o ôl-gryniadau yn yr ardal dros y pump awr wedi'r daeargrynfeydd. Digwyddodd dwy ddaeargryn arall, o'r un maint, ar 11 Hydref ac 15 Hydref, gan achosi saith marwolaeth a rhyw 300 o anafiadau ychwanegol.[1][2]
Enghraifft o'r canlynol | cyfres o ddaeargrynfeydd |
---|---|
Dyddiad | 7 Hydref 2023 |
Lladdwyd | Unknown |
Lleoliad | Herat |
Gwladwriaeth | Affganistan |
Rhanbarth | Herat |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Lleolwyd yr uwchganolbwynt 30 km i ogledd-orllewin dinas Herat, gan daro felly rhanbarth anial llawn pentrefi tlawd, anghysbell. Adeiladwyd tai'r werin gyda briciau pridd, a ddadfeiliodd yn hawdd.[3] Cafodd rhywfaint o ysgwyd ei deimlo ar draws gorllewin y dalaith, ac hefyd mewn ambell man dros y ffin i'r gorllewin ag Iran a'r ffin i'r gogledd â Thyrcmenistan.
Yn ôl llefarydd o lywodraeth Affganistan, difethwyd 12 pentref yn ardal Zindah Jan a chwe phentref yn ardal Ghoryan yn llwyr.[4] Daeth timau achub o daleithiau Helmand a Kandahar i gynorthwyo yn Herat, a chludwyd nifer o'r anafedigion i ddinas Herat am driniaeth. Codwyd ysbyty dros dro yn y prynhawn ar ddiwrnod y daeargrynfeydd, wedi i Ysbyty Rhanbarthol Herat orlenwi â chleifion, ac agorwyd gwesty ac ysgolion i lochesu'r rhai a ddadleolwyd. Treuliodd miloedd o drigolion Herat a'r cyrion y noson yn yr awyr aored, yn y strydoedd a'r parciau, rhag ofn y byddai cryniadau eraill i ddilyn.[4]
Ymbiliodd y llywodraeth ar grwpiau dyngarol a'r byd Mwslimaidd am gymorth,[4] a darparwyd adnoddau gan Gymdeithas Groes Goch Affganistan, MSF, Rhaglen Bwyd y Byd, a UNICEF.[3] Fodd bynnag, mae nifer o wledydd yn gwrthod cydweithio â'r Taliban wedi i'r rheiny ailgipio grym yn 2021, a phitw a fu'r ymateb rhyngwladol hyd yn hyn.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ (Saesneg) Mohammad Yunus Yawar, "Afghan earthquakes death toll revised to 'over 1,000' from over 2,400 by Taliban-run ministry", Reuters (13 Hydref 2023). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 15 Hydref 2023.
- ↑ (Saesneg) "Afghanistan hit by 6.3 magnitude earthquake - its third in days", Sky News (15 Hydref 2023). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 15 Hydref 2023.
- ↑ 3.0 3.1 (Saesneg) Derek Cai, Joel Guinto, ac Yogita Limaye, "Afghanistan earthquake: More than 1,000 dead as villagers dig for survivors", BBC (9 Hydref 2023). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 9 Hydref 2023.
- ↑ 4.0 4.1 4.2 (Saesneg) Akhtar Mohammad Makoii, "Afghanistan earthquake has killed more than 2,400, Taliban say", The Guardian (8 Hydref 2023). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 9 Hydref 2023.