Mae Herat (Perseg: هرات) yn un o 34 talaith Affganistan. Gyda'r taleithiau cyfagos Badghis, Farah, a Ghor, mae'n ffurfio rhanbarth gogledd-orllewin Affganistan. I'r gorllewin mae'n ffinio ag Iran. Ei phrifddinas a chanolfan weinyddol yw dinas Herat. Mae gan y dalaith boblogaeth o tua 1,182,000 o bobl.

Herat
MathTaleithiau Affganistan Edit this on Wikidata
PrifddinasHerat Edit this on Wikidata
Poblogaeth1,762,157 Edit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC+04:30 Edit this on Wikidata
Iaith/Ieithoedd
  swyddogol
Dari, Pashto Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirAffganistan Edit this on Wikidata
GwladBaner Affganistan Affganistan
Arwynebedd54,778 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr1,088 metr Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaTalaith Razavi Khorasan, Badghis, Mary Region Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau34°N 62°E Edit this on Wikidata
AF-HER Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y Llywodraeth
Governor of Herat Province Edit this on Wikidata
Map
Lleoliad Talaith Herat yn Affganistan

Y prif afonydd yn y dalaith yw'r Hari Rud ac Afon Adraskan. I'r dwyrain ceir mynyddoedd Hazara. Ceir mynyddoedd uchel i'r dwyrain a'r gogledd.

Ers cannoedd o flynyddoedd mae'r dalaith yn groesfan bwysig gyda ffyrdd yn arwain i Mashhad i'r gorllewin, yn Iran, i Kabul i'r dwyrain ac i Kandahar i'r de.

Yn ddiwylliannol mae gan y dalaith gysylltiadau cryf ag Iran. Siaredir Dari (sy'n agos iawn i'r iaith Berseg) gan y mwyafrif.

Herat oedd un o'r rhannau cyntaf o'r wlad i gael ei goresgyn gan yr Undeb Sofietaidd.

Ardaloedd golygu

 
Map o Dalaith Herat
Taleithiau Affganistan  
Badakhshan | Badghis | Baghlan | Balkh | Bamiyan | Daykundi | Farah | Faryab | Ghazni | Ghor | Helmand | Herat | Jowzjan vJowzjan | Kabul | Kandahar | Kapisa | Khost | Kunar | Kunduz | Laghman | Lowgar | Nangarhar | Nimruz | Nurestan | Oruzgan | Paktia | Paktika | Panjshir | Parwan | Samangan | Sar-e Pol | Takhar | Wardak | Zabul