Dafad Llŷn

Math o ddafad a fegir yng Nghymru ar gyfer ei gwlân, ei chig, ei chroen a'i harddangos ydy dafad Llŷn. Mewnforiwyd y ddafad o Roscommon, Iwerddon i Benrhyn Llŷn rhwng 1810 a 1815 a hynny drwy drefniant gan ddau o ffermwyr defaid mwayf Penrhyn Llŷn yr adeg honno, sef Lloyd Edwards, Nanhoron a'i gyfaill Syr Watkin Williams-Wynn (Yr Arglwydd Mostyn), Ystâd Cefn Amwlch. O fewn pedair blynedd o werthu'r ddafad i'w tenantiaid a'i bridio efo hwrdd Cymreig, roedd yr epil yn ddafad bur ac fe'i galwyd yn "ddafad Llŷn".[1] Maen nhw'n gweddu i dir gwastad y dyffryn yn ogystal a thir mynydd.[2]

Eryn y 1930au, dafad Llŷn oedd y 5ed brid mwyaf yng Nghymru, gan ddilyn: y ddafad fynydd Gymreig, dafad Bryniau Ceri, dafad Clun a dafad Maesyfed. Mae'r cnu'n hynod o ysgafn o'i gymharu a'r gweddill, a thelid mwy o arian amdano.

Lleihad yn y niferoeddGolygu

Yn ystod yr Ail Ryfel Byd cafwyd gorchymyn i bob ffarmwr yng ngwledydd Prydain i aredig o leiaf traean o'i dir; a daeth gostyngiad yn niferoedd y ddafad. Ceisiodd y ffermwr gadw'r un nifer o ddefaid ar lai o dir drwy fagu'r ddafad fynydd - a gellid cadw dwy ddafad fynydd am bob tair dafad Llŷn. Drwy fagu'r ddafad fynydd gyda maharen Southdown, cynhyrchwyd wyn tewion a digon o fraster arnyn nhw. Aeth buchesi'r ardal yn fwy ychydig wedyn, oherwydd agor hufenfa gydweithredol gyntaf gwledydd prydain sef Hufenfa De Arfon. Dewisiodd nifer o ffermwyr hefyd droi at ddefaid cadw y gaeaf yn hytrach na'r ddafad Llyn. Ym 1958 diflanodd un brid arall, sef dafad Rhiw, dafad llai na dafad Llŷn.

Dim ond tua 500 oedd yn weddill erbyn canol y chwedegau a saith ffermwr yn unig oedd yn eu bridio. Mewn cyfarfod ym Mhwllheli ar ddiwedd y chwedegau ffurfiwyd "Cymdeithas Defaid Lleyn" a dechreuwyd cofnodi epilgarwch pob diadell.

Y llanw'n troiGolygu

Erbyn canol y 1970au roedd rhwng 200 a 300 ohonynt a chychwynwyd yr arferiad o glustnodi diwrnod arbennig blynyddol i'w harwerthu: y dydd Iau olaf o fis Awst. Cychwynodd Cymdeithas Ddafad Llŷn arddangos defaid (tair dafad a thri oen) yn Sioe Fawr Llanelwedd yn 1976. Yn yr un flwyddyn, yn eironig iawn, roedd niferoedd defaid Roscommon wedi gostwng i 111 a chychwynwyd prynu defaid Llŷn er mwyn gwella'r stoc yn Iwerddon. Eryn 2014 roedd 400,000 o ddefaid Llŷn ar gael gydag 16,000 ohonynt wedi'u cofrestru gan y Gymdeithas.

CyfeiriadauGolygu

  1. Fferm a Thyddyn, Calan Mai 2014, rhif 53. Awdur: T. Rees Roberts.
  2. "The Breed". Lleyn Sheep Society. Cyrchwyd 8-06-2014. Check date values in: |accessdate= (help)

Gweler hefydGolygu