Roscommon
Tref yn Iwerddon yw Roscommon (Gwyddeleg: Ros Comáin),[1] sy'n dref sirol Swydd Roscommon, Gweriniaeth Iwerddon, yng nghanolbarth yr ynys. Enwir y dref ar ôl Sant Comáin (Coman). Poblogaeth: tua 5,000. Lleolir Castell Roscommon ger y dref.
![]() | |
![]() | |
Math | tref ![]() |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Swydd Roscommon ![]() |
Gwlad | ![]() |
Arwynebedd | 8 km² ![]() |
Uwch y môr | 80 ±1 metr ![]() |
Cyfesurynnau | 53.6333°N 8.1833°W ![]() |
![]() | |
Allforiwyd defaid Roscommon i Ben Llŷn rhwng 1810-15 gan Dishley Leicester o'r Iwerddon a Lloyd Edwards, Nanhoron a'i gyfaill Syr Watkin Williams-Wynn (Yr Arglwydd Mostyn), Ystâd Cefn Amwlch o Gymru. O fewn pedair blynedd o werthu'r ddafad i'w tenantiaid a'u bridio efo hwrdd Cymreig, roedd yr epil yn ddafad bur ac fe'i galwyd yn "ddafad Llŷn".[2] Maen nhw'n gweddu i dir gwastad y dyffryn yn ogystal â thir mynydd.[3]

Cyfeiriadau golygu
- ↑ "Placenames Database of Ireland", logainm.ie; adalwyd 10 Hydref 2022
- ↑ Fferm a Thyddyn, Calan Mai 2014, rhif 53. Awdur: T. Rees Roberts.
- ↑ "The Breed". Lleyn Sheep Society. Cyrchwyd 8-06-2014. Check date values in:
|accessdate=
(help)