Dafydd Huws (awdur)
Awdur o Gymro oedd Dafydd Huws (1949 – 15 Ebrill 2020), a ysgrifennodd o dan y ffugenw Goronwy Jones.[1]
Dafydd Huws | |
---|---|
Ffugenw | Goronwy Jones, Charles Huws |
Ganwyd | 1949 Bangor |
Bu farw | 15 Ebrill 2020 Penarth |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | llenor, sgriptiwr, athro |
Plant | Catrin Dafydd |
Bywyd cynnar ac addysg
golyguGanwyd yn Mangor a fe'i magwyd yn Llanberis ac aeth i astudio ym Mhrifysgol Aberystwyth.
Gyrfa
golyguBu'n athro Cymraeg am 18 mlynedd yn Ysgol Uwchradd Illtyd Sant, Caerdydd cyn gadael y byd addysg am y BBC i sgriptio Pobol y Cwm.
Dechreuodd ei yrfa lenyddol fel colofnydd radio a theledu Y Faner o dan yr enw Charles Huws (1971-1982). Ef yw awdur nofelau'r Dyn Dwad. Trwy lygad ei gymeriad Goronwy Jones, creodd Huws dair nofel ôl-fodernaidd a gwleidyddol. Dyddiadur Dyn Dŵad (1978), Un Peth 'Di Priodi, Peth Arall 'Di Byw (1990) a Walia Wigli (2004) a detholiad o storiau a darllediadau yn y gyfrol Chwarter Call (2005). Rhydd nofelau Huws olwg ddychanol a gwleidyddol ar Gymru'r 70au, yr 80au, y 90au a'r Gymru fodern. Addaswyd y nofel Dyddiadur Dyn Dŵad yn gyfres fer ar Radio Cymru yn 1986 ac yn ddiweddarach fel ffilm, gyda Llion Williams yn serennu yn y brif ran. Fe'i ddarlledwyd fel y ffilm Nadolig ar S4C yn 1989.
Ef hefyd oedd awdur Ser y Dociau Newydd (1994) ac roedd yn parhau i sgriptio ar gyfer y teledu. Roedd Dafydd Huws yn weithgar gydag Undeb yr Ysgrifenwyr yng Nghymru.
Yn ei flynyddoedd olaf, roedd wedi bod yn barddoni dipyn, a cyhoeddwyd rhai darnau yn enw Goronwy Jones yng nghylchgrawn Golwg ym mis Ebrill 2017.[1]
Bywyd personol
golyguRoedd yn briod a June ac roeddent yn byw yng Ngwaelod-y-Garth ger Caerdydd. Mae ganddynt ddwy ferch, Esyllt a Catrin Dafydd.
Bu farw yn hosbis Holme Towers ym Mhenarth.
Gweithiau
golygu- Gwaith Sgriptio i Deledu: Cyfres Mwy Na Phapur Newydd, I Dir Drygioni, Un Dyn Bach A Rol, Iechyd Da.
- Ffilmiau: Dyddiadur Dyn Dwad (1989), Y Delyn (1998)
- Cyfresi Radio: Dyddiadur Dyn Dwad, Dyddiadur Dyn Priod.
- CD o ddarllediadau: Dyddiadur Dyn Priod.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 Colli Dafydd Huws, ‘y Dyn Dŵad’ , Golwg360, 15 Ebrill 2020.