Dafydd ab Owain, Esgob Llanelwy
Clerigwr o Gymro ar ddiwedd yr Oesoedd Canol oedd Dafydd ab Owain (m. 12 Chwefror 1512). Ei enw llawn yn yr achau oedd Dafydd ab Owain ap Deio ap Llywelyn ap Einion ap Celynnin.
Dafydd ab Owain, Esgob Llanelwy | |
---|---|
Cerflun o'r Abad Dafydd ab Owain yn Llanelwy | |
Bu farw | 11 Chwefror 1513, 12 Chwefror 1512 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | offeiriad Catholig, esgob Catholig |
Swydd | esgob esgobaethol, Roman Catholic Bishop of Saint Asaph, abad |
Cafodd ei addysg glerigol ar gyfer gyrfa yn yr eglwys ym mhrifysgol Rhydychen, lle enillodd ei radd fel Doethur Cyfraith.
Cafodd ei apwyntio'n abad ar Abaty Ystrad Marchell (neu Abaty Glyn y Groes yn ôl ffynhonnell arall. Yn ddiweddarach daeth yn abad Abaty Aberconwy, ym Maenan, ger Llanrwst yn Nyffryn Conwy. Yn 1489 atgyweiriodd rannau o'r abaty, a oedd wedi dioddef yn ystod Rhyfeloedd y Rhosynnau.
Uchafbwynt ei yrfa oedd cael ei apwyntion'n Esgob Llanelwy, un o bedair esgobaethau traddodiadol Cymru, gan y Pab Sulien ar 18 Rhagfyr, 1503. I ddechrau roedd yn parhau i fyw yn ei abad-dy ym Maenan gan fod yr eglwys gadeiriol yn adfail ers dyddiau gwrthryfel Owain Glyndŵr, ond yn raddol fe lwyddodd Dafydd i ailgodi'r eglwys.
Roedd yn noddwr hael a chedwai lys agored. Canodd y bardd Tudur Aled ac eraill iddo. Yn ôl Tudur roedd yr esgob yn enedigol o Bowys ac roedd ganddo geraint ym Meirionnydd, Maelor, Rhos a Thegeingl. Roedd yn hyddysg yn y Gymraeg, Lladin, Groeg a Hebraeg. Cadwai lys hael ym Maenan gyda digon o fwyd a gwin i'r beirdd.
Cododd bont bren ar Afon Clwyd ger Llanelwy, a safai hyd 1630; 'Pont Dafydd Esgob' yw'r enw o hyd ar y bont faen a gymerodd ei lle.
Bu farw ar 12 Chwefror, 1512, a chafodd ei gladdu yn ei eglwys gadeiriol lle codwyd cofeb garreg iddo ar ei fedd a addurniwyd â cherfluniau ohono yn ei wisg esgobol.
Ffynhonnell
golygu- T. Gwynn Jones (gol.), Gwaith Tudur Aled (Caerdydd, 1926). Cyfrol 2, t. 671.
- Robert Williams, Eminent Welshmen (Llanymddyfri, 1853)