Mae Afon Clwyd yn afon yng Ngogledd Cymru. Enwyd yr hen sir Clwyd ar ôl yr afon, sy'n rhedeg trwy ei chanol, a'r dyffryn. Mae'n llifo o gyffiniau Melin y Wig i aberu ym Môr Iwerddon yn Y Foryd, ger Y Rhyl. Mae Rhuthun a Llanelwy ymhlith y trefi ar lannau'r afon.

Afon Clwyd
Mathafon Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau53.0702°N 3.4268°W, 53.0661°N 3.4325°W, 53.3172°N 3.5051°W Edit this on Wikidata
AberMôr Iwerddon Edit this on Wikidata
LlednentyddAfon Elwy, Afon Clywedog (Clwyd), Afon Ystrad, Afon y Maes Edit this on Wikidata
Dalgylch900 cilometr sgwâr Edit this on Wikidata
Hyd55 cilometr Edit this on Wikidata
Map

Gorwedd tarddle Afon Clwyd ar ucheldiroedd llym rhan ddwyreiniol Mynydd Hiraethog, yn ne Sir Ddinbych. Yno, tua 1650 troedfedd i fyny yng nghoedwig gonifferaidd Fforest Clocaenog, mae'r afon yn tarddu i'r gogledd o bentref bach Bod Petrual ac yn llifo ar gwrs i'r de. Ym Melin y Wig mae'n gwneud tro pedol i'r gogledd-ddwyrain a heibio i gymunedau Derwen a Llanelidan gan droi ar gwrs gogleddol. Rhwng y pentrefi hynny mae lôn yr A494 yn ei chroesi am y tro cyntaf.

Wrth i Afon Clwyd lifo i mewn i ran uchaf Dyffryn Clwyd a'r tir ddechrau mynd yn fwy gwastad ar ei glannau, mae Afon Alyn yn ymuno â hi o'r de-ddwyrain. Saif pentref hanesyddol Llanfair Dyffryn Clwyd ar aber Alyn a Chlwyd. Erbyn iddi gyrraedd tref Rhuthun a'i gastell canoloesol mae'r afon wedi chwyddo'n sylweddol ac yn cymryd cwrs mwy hamddenol bron yn syth i gyfeiriad y gogledd a'r môr. Mae hi'n gadael Rhuthun ar ei glan ddwyreiniol ac mae'r A494 yn ei chroesi am yr ail dro ar ymyl y dref. Mae nifer o ffrydiau llai yn ymuno â hi wrth iddi fynd yn ei blaen, gan gynnwys Afon Ystrad o gyfeiriad Nantglyn i'r gorllewin. Rhed yr afon heibio i Langynhafal a Llandyrnog, i'r dwyrain, a thref Dinbych i'r gorllewin. Hanner milltir cyn y dref olaf honno mae Afon Clywedog, hithau'n codi yn Fforest Clocaenog hefyd, yn ymuno â hi.

 
Afon Clwyd yn llifo drwy gorsdir Morfa Rhuddlan.
 
Afon Clwyd o Bont Llannerch.

Am draean olaf ei siwrnai mae'r afon yn llifo'n urddasol trwy ffermdir cyfoethog a dolydd braf Dyffryn Clwyd, heibio i Fodfari, gyda Bryniau Clwyd i'r dwyrain. Ar gyrrion dwyreiniol dinas eglwysig Llanelwy mae'r A55 yn croesi'r afon ar bont newydd. Mae'r tir ar ei glannau'n wastad iawn erbyn i Afon Elwy lifo i mewn iddi ychydig i'r gogledd o Lanelwy. Mae hi'n llifo trwy ganol Rhuddlan ac yn fuan wedyn yn ymagor i'r Foryd, ei haber cysgodlyd ger Y Rhyl, ac yn cyrraedd y môr.

Gweler hefyd

golygu