Dafydd Gam
Uchelwr canoloesol o Gymru oedd Dafydd ap Llewelyn ap Hywel neu Dafydd Gam (tua 1380 – 25 Hydref 1415). Roedd yn frodor o ardal Aberhonddu, Brycheiniog. Caiff ei ystyried gan rai yn arch-fradwr i'r achos Cymreig.[1][2]
Dafydd Gam | |
---|---|
Ganwyd | c. 1380 |
Bu farw | 25 Hydref 1415 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | person milwrol |
Tad | Llywelyn ap Hywel Fychan ap Hywel ab Einion Sais |
Mam | Mawd Verch Ieuan ap Rhys ab Ifor Gôch o Glangwy |
Plant | Gwladys ferch Dafydd Gam, Morgan ap Dafydd Gam ap Llywelyn ap Hywel Fychan |
Bywgraffiad
golyguRoedd yn wrthwynebwr blaengar i Owain Glyndŵr yn ne-ddwyrain Cymru. Cymerwyd ef yn garcharor gan Glyn Dŵr yng nghyffiniau Aberhonddu tua 1410 (neu o bosibl 1412).
Yn ddiweddarach, bu'n ymladd dros Harri V yn y Rhyfel Can Mlynedd yn Ffrainc, a lladdwyd ef ym Mrwydr Agincourt yn 1415, gyda'i mab yng nghyfraith, Roger Vaughan o Bredwardine.[3] Mae traddodiad iddo gael ei urddo'n farchog ar faes y frwydr cyn iddo farw, ond nid oes tystiolaeth i gadarnhau hyn. Mae'n bosib mae Dafydd ap Llywelyn yw sail y Cymeriad Cymreig Fluellen cyfeirir ato yn y ddrama Henry V gan William Shakespeare lle mae'n ymddangos fel un o ysweiniaid brenin Lloegr.[2][4], er bod Davy Gam yn cael ei grybwyll wrth ei enw yn y ddrama fel un o'r rai bu farw; bu un o ddisgynyddion Dafydd Gam, John Games yn gyfaill i Shakespeare, gan hynny mae'n bosib bod y cymeriad cyffredinol a'r cyfeiriad penodol wedi ei grybwyll ganddo fo.
Credir i'r llysenw "Gam" gael ei ennill, efallai gan mai dim ond un llygad oedd ganddo neu ei fod yn llygatgroes.
Trwy briodas ei ferch Gwladus â Syr Wiliam ap Tomas o Raglan, roedd yn gyndad i deulu grymus yr Herbertiaid a hefyd i rai o Ieirll Penfro.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "DAFYDD GAM (bu f. 1415)". Y Bywgraffiadur. Cyrchwyd 21 Chwefror 2021.
- ↑ 2.0 2.1 T. F. Tout, ‘Dafydd Gam (d. 1415)’, rev. R. R. Davies, Oxford Dictionary of National Biography, Oxford University Press, 2004; online edn, Jan 2008 adalwyd 27 Rhagfyr 2015
- ↑ Michael Linkletter; Diana Luft (31 January 2007). Proceedings of the Harvard Celtic Colloquium. Harvard University Press. t. 47. ISBN 978-0-674-02384-0.
- ↑ Spark Notes → Shakespeare Study Guides → Henry V → Character List Captain Fluellen, Captain MacMorris, and Captain Jamy [1] adalwyd 27 Rhagfyr 2015