William ap Thomas
Uchelwr o Gymru ac adeiladydd Castell Rhaglan oedd Syr William ap Thomas (bu farw 1445). Ef oedd sylfaenydd Teulu'r Herbertiaid.
William ap Thomas | |
---|---|
Dyluniad o gerflun o William ap Thomas. | |
Ganwyd | 14 g |
Bu farw | 1446 Llundain |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Tad | Thomas ap Gwyllym |
Mam | Maud Morley |
Priod | Gwladys ferch Dafydd Gam, Elizabeth Bluet, Margaret ap Griffith |
Plant | William Herbert, Richard Herbert, Margaret Herbert, John Gwilim Herbert, Elizabeth Herbert, Margred Herbert |
Gwobr/au | Marchog Faglor |
Bywgraffiad
golyguDaeth Castell Rhaglan i'w feddiant pan briododd Elizabeth Bloet, gweddw Syr James Berkeley, yn fuan wedi 1406. Wedi i Elizabeth farw yn 1420, cadwodd William ei afael ar Raglan fel tenant ei lysfab, James Berkeley, Barwn 1af Berkeley, ac yn 1425 cytunodd Berkeley iddo gadw Rhaglan am weddill ei oes.
Ail-briododd William gyda Gwladys, merch Dafydd Gam, a gweddw Syr Roger Vaughan. Urddwyd ef yn farchog gan Harri VI, brenin Lloegr yn 1426, a chafodd y llysenw "Y marchog glas o Went" .
Daeth yn ffigwr pwysig yn Ne Cymru, gan ddod yn stiward Arglwyddiaeth y Fenni yn 1421, ac yn ddiweddarach yn brif stiward stadau Dug Efrog yng Nghymru yn 1442-1443. Apwyntiwyd ef yn Siryf Sir Aberteifi a sir Gaerfyrddin yn 1435, ac yn siryf Sir Forgannwg yn 1440. Yn 1432, prynodd faenor Rhaglan oddi wrth deulu Berkeley am tua 667 punt. Tua'r adeg yma, yn ôl pob tebyg, y dechreuodd adeiladu'r castell presennol. Bu farw yn Llundain yn 1445, a chladdwyd ef yn Egwys Priordy'r Fenni.
Disgynyddion
golyguCafodd William a Gwladys y plant canlynol:
- Olynwyd William gan ei fab, William Herbert, Iarll 1af Penfro (1423–1469), a gymerodd y cyfenw "Herbert", ac a ddaeth yn Iarll Penfro.
- Richard Herbert o Golbrwg ger y Fenni bu farw yn 1469 ar faes y gad ym Mrwydr Edgecote.
- Elizabeth - a briododd Syr Henry Stradling (1423–1476), mab Edward Stradling (m. c.1394) a Gwenllian Berkerolles.
- Margaret - a briododd Syr Henry Wogan.