Dafydd ap Tomas
Abad Margam, Morgannwg oedd Dafydd ap Tomas (bu farw 1517). Roedd yn enwog yn ei ddydd fel un o brif noddwyr y beirdd ym Morgannwg.
Dafydd ap Tomas | |
---|---|
Ganwyd | 15 g |
Bu farw | 1517 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Swydd | abad |
Llinach
golyguYn ôl yr achau a roddir gan y bardd Dafydd Benwyn, roedd yr Abad Dafydd yn fab i Tomas ap Hywel ap Ieuan ap Siancyn ap Rhys Fychan, un o hynafiaid y bardd Rhys Brydydd, ac felly'n perthyn i benceirddiaid Tir Iarll ac i linach Einion ap Collwyn. Ei fam oedd Madrun, merch Siôn Stradling o'r Merthyr Mawr, yn ôl pob tebyg.[1]
Noddwr i'r beirdd
golyguYn ystod abadaeth Dafydd roedd Abaty Margam yn enwog am ei groeso i'r beirdd, parhad o draddodiad o nawdd sydd â'i wreiddiau yn yr Oesoedd Canol. Daeth Dafydd yn abad ym Margam yn 1500 a pharhaodd yn y swydd hyd 1517, pan fu farw, yn ôl pob tebyg. Deuai beirdd o bob rhan o Forgannwg i'w lys. Roedd y beirdd hynny yn cynnwys ei geraint Rhisiart ap Rhys, mab Rhys Brydydd ac athro barddol Iorwerth Fynglwyd, a Siôn ap Hywel Gwyn.[2]
Ffugiadau Iolo Morganwg
golyguDaeth yr Abad Dafydd yn rhan o Forgannwg chwedlonol Iolo Morganwg. Fe'i gwnaeth yn fardd ganddo ac yn awdur llyfr gramadeg y beirdd a wnaeth "dan olwg Cadair a Gorsedd Beirdd Tir Iarll". Arno ef hefyd y tadogir cyfres o 'Drioedd Prydyddiaeth Beirdd Tir Iarll'. Gwyddys nad oes sail i ffugiadau Iolo.[1]