Rhys Brydydd

bardd

Roedd Rhys Brydydd (fl. tua chanol y 15g) yn fardd Cymraeg o Forgannwg.

Rhys Brydydd
GanwydTeyrnas Morgannwg Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethbardd Edit this on Wikidata
Blodeuodd15 g Edit this on Wikidata
PlantRhisiart ap Rhys Edit this on Wikidata

Bywgraffiad golygu

Mae'n bosibl mai brawd i Rys Brydydd oedd y bardd Gwilym Tew (fl. c.1460 - c.1480), yntau o Forgannwg, neu'n fab iddo. Roedd yn daid i'r bardd Lewys Morgannwg (fl. 1520 - 1625), athro barddol Gruffudd Hiraethog. Yn ôl ach Lewys yn llaw Gruffudd Hiraethog roedd Rhys Brydydd yn ddisgynnydd i Einion ap Collwyn.

Cerddi golygu

Dim ond pedair o gerddi Rhys sydd wedi goroesi. Mae dwy ohonyn' nhw'n gerddi crefyddol, sef mawl i Iesu a cherdd am bryder y bardd o flaen anisicrwydd y byd. Mae trydedd gerdd yn gywydd i ofyn cyfrwy gan noddwr anhysbys. Mae'r bedwaredd ar nodyn mwy personol ar y testun anghyffredin, unigryw efallai, i ofyn gwellhad oddi wrth frath neidr. Ceir disgrifiad o neidr a'i frathodd yn ei droed wrth iddo gerdded yn y bryniau:

llom dorch yn rhoi llam o dwyn,
llath unyd llywaeth wenwyn;
llethri a drysi a draidd,
lladrones gallodrennaidd.

Llyfryddiaeth golygu

  • Eurys I. Rowlands (gol.), Gwaith Rhys Brydydd a Rhisiart ap Rhys (Caerdydd, 1976)