Dafydd Benwyn

un o feirdd Morgannwg

Bardd Cymraeg proffesiynol o Forgannwg oedd Dafydd Benwyn (bl. ail hanner yr 16g). Er nad yw ei waith o safon uchel mae'n bwysig fel ffynhonnell hanesyddol am hynt a helyn y traddodiad barddol yn y rhan honno o Gymru ac am achau beirdd ac uchelwyr yr ardal.

Dafydd Benwyn
Ganwyd16 g Edit this on Wikidata
Llangeinwyr Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethbardd Edit this on Wikidata
Blodeuodd16 g Edit this on Wikidata

Bywyd a gwaith golygu

Disgybl barddol Lewys Morgannwg a Rhisiart Iorwerth, mab Iorwerth Fynglwyd oedd Dafydd Benwyn. Yn ôl ei gyfoeswr Sils ap Siôn, roedd yn frodor o blwyf Llangeinwyr, Glyn Ogwr, heb fod nepell o ardal Tir Iarll, cartref ei ddau athro.[1]

Roedd yn fardd toreithiog. Ceir dros 180 o gywyddau ac awdlau ganddo yn y llawysgrifau ynghyd â llu o englynion ar bob math o bynciau.[2] Nid oes fawr o werth i'r rhan fwyaf o'i gerddi fel llenyddiaeth - gwelir ynddynt y dirywiad mawr a fu yn nhraddodiad barddol Morgannwg yn ail hanner yr 16g - ond mae ei waith fel arwyddfard yn bwysig am iddo ganu i'r rhan fwyaf o uchelwyr mawr a bychain y de-ddwyrain a chadw eu hachau. Mae gwaith Dafydd - neu 'y Benwyn' - yn bwysig hefyd fel cloddfa am wybodaeth am enwau lleoedd a ffurfiau tafodieithiol Cymraeg y De.

Llyfryddiaeth golygu

  • J. Kyle Fletcher (gol.), The Gwentian Poems of Dafydd Benwyn (1909). Detholiad bychan.
  • G. J. Williams, Traddodiad Llenyddol Morgannwg (Gwasg Prifysgol Cymru, 1948). Cefndir a nifer o gyfeiriadau.

Cyfeiriadau golygu

  1. Traddodiad Llenyddol Morgannwg, tud. 78.
  2. Traddodiad Llenyddol Morgannwg, tud. 79.