Agor y brif ddewislen

Bardd Cymraeg o fro Morgannwg oedd Siôn ap Hywel Gwyn (bl. ganol yr 16g).[1]

BywgraffiadGolygu

Ni wyddys pryd cafodd y bardd ei eni. Yn ôl traddodiad, honnir mai Trysorwr Llandaf oedd Siôn, ond dangosodd G. J. Williams na allai hynny fod yn wir a bod y bardd wedi cael ei gymysgu gyda gŵr o'r enw Siôn ab Ieuan (bu farw tua 1545), clerigwr a groesawai'r beirdd i lys Llandaf.[1]

Yn ôl yr achau, roedd Siôn ap Hywel Gwyn yn perthyn i linach y bardd Rhys Brydydd. Roedd Rhisiart ap Rhys, mab Rhys Brydydd yn athro barddol i Iorwerth Fynglwyd. Canai Siôn ap Hywel Gwyn i'r Abad Dafydd ap Tomas, Abaty Margam, ac roedd yntau hefyd yn perthyn i'r un llinach. Cysylltir y teulu estynedig hyn ag ardal Tir Iarll[1]

Mae ei gerddi sydd ar glawr yn cynnwys cywydd dychan i'r clerwr Lang Lewis. Cofnodir iddo ganu yn llys Syr George Herbert yn Abertawe yn 1543. Cerddi ymryson yw trwch ei gerddi.[1]

CyfeiriadauGolygu

  1. 1.0 1.1 1.2 1.3 G. J. Williams, Traddodiad Llenyddol Morgannwg (Gwasg Prifysgol Cymru, 1948), tud. 60-61.