Ewdicot
Ewdicotau | |
---|---|
Blodau coeden afalau (Malus domestica) | |
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Plantae |
Ddim wedi'i restru: | Angiosbermau |
Ddim wedi'i restru: | Ewdicotau |
Urddau | |
Gweler y rhestr |
Grŵp mawr o blanhigion blodeuol yw'r ewdicotau (Saesneg: eudicots). Maent yn cynnwys mwy na 180,000 o rywogaethau, tua tri chwarter o blanhigion blodeuol y byd.[1] Ymddangosodd yr ewdicotau cyntaf tua 125 miliwn o flynyddoedd yn ôl.[1] Fel rheol, mae ganddynt ddwy had-ddeilen, meinwe fasgwlaidd wedi'i threfnu mewn cylchoedd, a dail llydan â rhwydwaith o wythiennau.[2] Mae gan eu gronynnau paill dri mandwll.[2] Mae'r ewdicotau'n cynnwys llawer o gnydau pwysig a phlanhigion yr ardd.
Urddau
golyguDosberthir yr ewdicotau mewn 39 o urddau yn ôl y system APG III:[3]
- Ranunculales: 7 teulu, 4445 rhywogaeth
- Teulu Sabiaceae (urdd ansicr): 100 rhywogaeth
- Proteales: 3 teulu, 1610 rhywogaeth
- Trochodendrales: 1 teulu, 2 rywogaeth
- Buxales: 2 deulu, 72 rywogaeth
- "Ewdicotau craidd"
- Gunnerales: 2 deulu, 45 rhywogaeth
- Teulu Dilleniaceae (urdd ansicr): 300 rhywogaeth
- Saxifragales: 15 teulu, 2470 rhywogaeth
- Rosidau, 17 urdd
- Berberidopsidales: 2 deulu, 4 rhywogaeth
- Santalales: 7 teulu, 1992 rhywogaeth
- Caryophyllales: 34 teulu, 11,510 rhywogaeth
- Asteridau, 13 urdd
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 Hennessey, Kathryn & Victoria Wiggins, goln. (2010) The Natural History Book, Dorling Kindersley, Llundain.
- ↑ 2.0 2.1 Mauseth, James D. (2009) Botany: an introduction to plant biology (4ydd arg.), Jones & Bartlett, Sudbury, Massachusetts.
- ↑ The Angiosperm Phylogeny Group (2009) An update of the Angiosperm Phylogeny Group classification for the orders and families of flowering plants: APG III Botanical Journal of the Linnean Society 161 (2), 105–121.
- Stevens, P. F. (2001 ymlaen). Angiosperm Phylogeny Website. Adalwyd ar 17 Ebrill 2012.