Cyffordd Llandudno

Tref fechan yng nghymuned Conwy, bwrdeistref sirol Conwy, Cymru, yw Cyffordd Llandudno[1] (Saesneg: Llandudno Junction).[2] Tyfodd o gwmpas yr orsaf o'r un enw ar Reilffordd Arfordir Gogledd Cymru. Mae Rheilffordd Dyffryn Conwy, sy'n cysylltu Llandudno a Blaenau Ffestiniog, yn defnyddio'r orsaf yn ogystal. Gan fod y rhan fwyaf o deithwyr yn ymwelwyr i Landudno aeth 'Cyffordd Llandudno' yn enw yr orsaf newydd. Cyn dyfodiad y rheilffordd Tre Marl oedd enw'r pentref bach y tyfodd Cyffordd Llandudno ohoni. "Y Gyffordd" neu "Junction" yw ei enw ar lafar yn lleol.

Cyffordd Llandudno
Mathtref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirConwy Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau53.28°N 3.8°W Edit this on Wikidata
Cod OSSH794778 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auJanet Finch-Saunders (Ceidwadwyr)
AS/auClaire Hughes (Llafur)
Map

Daearyddiaeth

golygu

Yn hanesyddol, mae'n rhan o blwyf Llangystennin, gynt yn rhan o gwmwd Creuddyn. Fe'i lleolir tua tair milltir a hanner i'r de o Landudno ar lan ddwyreiniol Afon Conwy. Dros yr afon, sy'n aberu ym Mae Conwy yma, mae tref hanesyddol Conwy. Mae pont rheilffordd hynafol dros yr afon, a godwyd gan Robert Stephenson, hen bont grog a godwyd gan Thomas Telford, a phont ddiweddar yn cysylltu'r Gyffordd â Chonwy. Yn rhedeg dan yr afon ceir y twnnel y mae lôn ddeuol yr A55 yn rhedeg drwyddo, gan osgoi'r Gyffordd ei hun. I'r gogledd mae Cyffordd Llandudno yn ymdoddi i dref Deganwy. I'r gogledd-ddwyrain mae bryniau'r Marl yn ei chysgodi. I'r dwyrain mae'r hen lôn yn arwain i Fochdre a Bae Colwyn.

 
Gorsaf Cyffordd Llandudno

Adeiladau

golygu

Yr adeilad amlycaf yn y dref yw Gorsaf reilffordd Cyffordd Llandudno.

Ar hen safle ffatri Hotpoint ar ymyl y dref ceir swyddfeydd rhanbarthol newydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn y Gogledd.

Ceir archfarchnad Tesco fawr a sinema amlsgrin ar gyrion y dref, rhwng yr orsaf a'r A55.

Ym mis Medi 2016, unodd y ddwy ysgol gynradd yng Nghyffordd Llandudno, Ysgol Maelgwn ac Ysgol Nant-y-Coed, i ffurfio ysgol newydd, Ysgol Awel y Mynydd.

Adeilad y Cynulliad

golygu
 
Adeilad y Cynulliad - Sarn Fynach

Lleolir Adeilad y Llywodraeth yng Nghyffordd Llandudno - Sarn Mynach yw'r enw arno. Pan agorwyd yn Mai, 2010, ar gost o ugain miliwn o bunnoedd, fe’i cyfrifid yn adeilad arbennig o ‘wyrdd’. Cafodd swyddfa newydd Llywodraeth Cymru yn y Gogledd ei hagor yn swyddogol ym mis Medi 2010 gan Carwyn Jones, Prif Weinidog Cymru. Mae ar ran o safle’r hen ffatri Hotpoint a oedd yn arfer gwneud peiriannau golchi. Cynlluniwyd yr adeilad gan y penseiri Austin-Smith Lord, ac fe’i hysbrydolwyd gan yr hyn sydd o’i gwmpas. Dyma’r adeilad mwyaf gwyrdd sydd gan Lywodraeth Cymru, ac mae ei nodweddion amgylcheddol yn cynnwys pwll ar gyfer oeri cyflenwad awyr iach y swyddfa, ailgylchu dŵr a boeler biomas. Defnyddiwyd deunyddiau lleol lle bo modd, ac mae llechi Chwarel y Penrhyn yn amlwg ar y tu allan, gyda’r addurn copr yn cyfeirio at y mwynfeydd copr sydd ar y Gogarth ers miloedd o flynyddoedd.

Gwarchodfa Adar Glan Conwy

golygu

Yn ymyl y Gyffordd ar lan Afon Conwy ceir gwarchodfa adar Glan Conwy, dan ofal yr RSPB, sy'n lle da i weld adar dŵr o bob math. Mae'r safle yn ymestyn o'r Gyffordd i gyffiniau pentref Glan Conwy. Mae'r fynedfa ar bwys yr A55 wrth y drofa am y Gyffordd. Ceir maes parcio a chyfleusterau ymwelwyr yno, ynghyd â llwybrau cerdded trwy'r gwlybdir.

Gweler hefyd

golygu

Pentrefi bychain ger y Gyffordd:

Cyfeiriadau

golygu
  1. "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 13 Hydref 2021.
  2. British Place Names; adalwyd 20 Tachwedd 2021