Dala dala

tacsi-fws, Tanzania

Mae'r Dala dala yn enw ar fath o fws mini neu tacsi-fws yn Tansanïa.[1] Maent yn enw lleol ar system matatu a geir yn Cenia a gweddill dwyrain Affrica. Mae'r tacsi-fws yn dilyn llwybr gydnabyddiedig ac yn casglu pobl ar hyd y ffordd. Maent yn ymateb i broblem trafnidiaeth a diffyg trafnidiaeth gyhoeddus yn y wlad.[2]

dala dala ar ffordd wledig yn Sansibar

Cyn dyfodiad bysiau mini byddai gyrwyr yn defnyddio tryc gyda meinciau wedi eu rhoi fewn[3]. Galwyd rhain yn chai maharagwe, ac roeddynt yn boblogaidd c. 1990.[2]

Mae'r dala dala, fel y matatu, yn dilyn llwybr gydbyddiedig gan gasglu pobl ar hyd arhosfeydd[4] ond bydd hefyd yn codi a gollwng pobl ar hyd y llwybr fel bo'r galw a'r lle.[1] Bydd y dala dala yn dechrau ar ei daith pan fydd y bws yn llawn.

Fel gyda'r matatu, ceir gyrrwr a manamba ('gweithiwr ffatri' mewn Swahili) sy'n dicedwr ac yn rhedeg y gwasanaeth tacsi-fws. Bydd y manamba yn casglu a threfnu'r teithwyr ac yn curo ceiniog ar ei frest er mwyn arwyddo wrth y gyrrwr pryd i gychwyn a phryd i stopio.

Ers 2008 mae rhai dala dala yn cael eu gweinyddu'n gyhoeddus yn Dar es Salaam.[5]

Enw golygu

 
Daladala yn Unguja

Mae'r gair dala dala yn ynganiad lleol o'r arian "dollar". Defnyddir y term thumni hefyd.[2]

Cyd-ddigwyddiad ffodus i'r siaradwr Cymraeg yw gweld gwasanaeth cludo sydd ag enw yr un peth â'r term ddeheuol Gymraeg am ddal bws neu dacsi, dala tacsi.

Hanes golygu

 
dala dala yn ninas Dar es Salaam, 2008

Datblygodd y dala dala fel tacsis anghyfreithiol yn ninas Dar es Salaam yn sgil tan-fuddsoddiad mewn gwasanaeth trafnidiaeth gyhoeddus a thwf poblogaeth.[6] Rhwng 1975 a 1983 (y flwyddyn cyfreithiolwyd y dala dala) lleihaodd nifer y bysiau yn y ddinas gan 36% tra ffrwydrodd y boblogaeth gan tua 80%.[6] Yn 1983 caniatawyd i gwmni trafnidiaeth y llywodraeth i is-gontractio trafnidiaeth i gwmniau preifat, ond, achos y tariff uchel gwnaeth hyn prin ddim i gynyddu nifer y dala dala cyfreithiol.

Yn sgil rhagor o ddiwygiadau yn yr 1990au hwyr, gwellodd prydlondeb gwasanaeth bysiau mini cyfreithiol. Rhwng 1991 a 1998 cynyddodd eu niferoedd gan 450%.[6] Parhaodd y gwmnïau bysiau mini i weithredu ac yn 1998 amcangyfrifwyd bod bron hanner y dala dala yn gwmnïau preifat.[6] Erbyn 1998 roedd y dala dala bron wedi goddiweddyd gwasnaeth gyhoeddus y llywodraeth gan, yn eu tro, dod ag arian tariff i goffrau'r wlad.[6] Yn ystod y cyfnod yma, roedd rhwng 7,640 a 6,300 dala dala yn rhedeg ochr yn ochr gyda gwasaneth cyhoeddus y llywodraeth.[6]

Gweler hefyd golygu

Mae'r dala dala yn debyg i sawl system drafnidiaeth hunan-drefnus yn Affrica. Ceir rhai eraill tebyg:

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 Thoughts On Dala Dala Buses isteptanzania.wordpress.com, May 29, 2009
  2. 2.0 2.1 2.2 Tripp, Aili Mari (1997). "The Daladala Bus Wars". Changing the Rules: the Politics of Liberalization and the Urban Informal Economy in Tanzania. UNIVERSITY OF CALIFORNIA PRESS. Cyrchwyd 29 Mehefin 2012.
  3. Travel Guide to Zanzibar zanzibar.org
  4. "How many people can you fit into a dala-dala". How many people can you fit into a dala-dala. Cyrchwyd 2011-06-12.[dolen marw]
  5. group=AICD name=synd2
  6. 6.0 6.1 6.2 6.3 6.4 6.5 Rizzo, Matteo (2002). "Being taken for a ride: privatisation of the Dar es Salaam transport system 1983–1998". The Journal of Modern African Studies 40 (1): 133–157. doi:10.1017/s0022278x01003846. http://eprints.soas.ac.uk/12960/1/Rizzo_Dar_es_Salaam.pdf.