Damwain Bryn Pydew

Damwain awyren a ddigwyddodd ar 27 Hydref 1944 oedd Damwain Halifax Bryn Pydew, pan laddwyd un allan o griw o saith ar lethrau Bryn Pydew.[1]

Awyren Halifax

Ar y 27 Hydref 1944, roedd criw o saith wedi hedfan o Wombleton, Swydd Efrog mewn awyren Halifax (Rhif HR723 QY-P) i Reading a Chaerfaddon a thros Fôr Hafren yn Ne Lloegr. Gwŷr o Ganada oedd chwech ohonynt a Sais oedd y seithfed, sef y peiriannydd, Sarjiant Jack Wagstaff. Flt/Lt Harold D O'Neill oedd y peilot, F/O Jim Dunlop oedd y cyfeiriwr, F/O W A Steele yn gyfrifol am ollwng y bomiau, F/O Hank Ferris yn gyfrifol am y radio a dau arall sef Sarjiant Mike Gurika a Sarjiant Norm Millar yng ngofal y gynnau.

Ar y ffordd yn ôl i Wombleton cododd problemau; roedd yr awyren i fod i hedfan ar uchder o 17,000 o doedfeddi, ond oherwydd effeithiau rhew, ‘doedd y ‘superchargers' ddim yn gweithio'n iawn a chollwyd pwer. Ceisiwyd newid cwrs droeon i osgoi'r cymylau cwmwlonimbws ond yn ofer. Paratowyd y criw i wisgo'u parasiwtiau a bod yn barod i neidio allan! Erbyn hyn roedd yr awyren uwchben ardal Conwy ac anfonwyd SOS gan Ferris ar y radio. Roedd nifer o bobl Cyffordd Llandudno yn ymwybobol o'r ddrama uwchben. Cyn neidio allan, ceisiodd y peilot, O'Neill, anelu'r awyren am y môr, ond troi mewn cylch a wnai, a'r troad olaf dros y Gogarth Fach i gyfeiriad Bae Colwyn. Trawodd y ddaear am 23.35.

Hynt a helynt y criw golygu

Yn Afon Conwy y syrthiodd Jim Dunlop. Clywodd lais ar y lan a nofiodd i'r cyfeiriad. Richard Price, prif arddwr Benarth oedd yno yn aber Afon Gyffin, ger y Castell. Daeth Hilda Wadle i'w helpu a llwyddwyd i'w dynnu ar y creigiau a'i achub. Aed ag ef i'r tŷ am fath a dillad sych a hysbysu'r awdurdodau.

Daeth Bill Steele i lawr yn y mwd ar ochr Cyffordd o'r afon a bu'n rhaid iddo ymlwybro heb ei sgidiau i orsaf y rheilffordd yng Nghyffordd Llandudno. Yno'n ei ddisgwyl roedd Sarjiant Gurika oedd wedi glanio tua'r un fan.

 
Y ddiweddar Mrs Lilian Owen, o Fferm Hendre Wen, oedd yn cofio'r digwyddiad yn dda

Glaniodd Millar a Wagstaff ar gaeau Fferm Hendre Wen, Lôn Pabo, Cyffordd Llandudno, yn agos at Ffordd A470 heddiw. Gwelwyd hwy gan Tom ac Elizabeth Davies a'u merch Dorothy (Dot) oedd yn dair ar ddeg oed ar y pryd. Yn 2017 roedd hi'n dal i gofio'r digwyddiad yn iawn. Pan edrychodd drwy ffenest ei llofft, ar ôl clywed sŵn, gwelodd rywbeth fel madarchen anferthol yn disgyn o'r awyr — y parasiwt! Aethant â'r ddau ddyn i'r ffermdy at Richard a Lilian Owen a'u merch fach Anwen oedd yn deirblwydd oed ar y pryd (Mrs Anwen Hughes, Hendre Creuddyn, wedyn).

Yn ôl Lilian Owen (pan oedd yn 98 oed) roedd Millar wedi troi'i ffer ac wedi colli ei sgidiau. Cafodd fenthyg ‘slipars' Richard Owen. Y peilot, Harold D' O'Neill oedd yr olaf i adael yr awyren ac fe laniodd o ger Ffordd Dinerth, Llandrillo yn Rhos.

Darganfuwyd corff Hank Ferris, gŵr y radio ble mae Stablau Pinewood ar Ffordd Sychnant, Conwy. Nid oedd wedi clymu strapiau harnes y parasiwt, ac o ganlyniad, pan agorodd hwnnw, fe syrthiodd Ferris yn syth i'r ddaear a'i ladd.


Lluniau Aelodau'r Criw golygu

Gweddillion yr awyren golygu

 
Map o'r ardal ble syrthiodd yr Halifax ym Mryn Pydew
 
Yr ardal o gwmpas Bodysgawen ble syrthiodd yr Halifax
 
Rhan arall o'r ardal o gwmpas Bodysgawen ble syrthiodd yr Halifax

Tarodd yr awyren y ddaear yn ardal Bryn Pydew wedi iddi deithio o gyfeiriad y môr (gweler y map), ar dir Fferm Bodysgawen, cartref Mr a Mrs Zachariah Jones a'u mab John Glyn oedd yn bymtheg oed. Chwalwyd nifer o feudai, ac aeth yr awyren yn ei blaen drwy'r berllan a gwrych cyn croesi'r ffordd ac i fyny'r allt. Yn ôl adroddiad yn y Weekly News ar y pryd, digwyddodd y ddamwain tua 11.30 ar nos Wener a lladdwyd dwy fuwch, merlen, hwch a nifer o ieir. Dallwyd un ferlen a bu'n rhaid ei saethu yn ddiweddarach. Diflannodd yr un ar bymtheg o gwningod oedd gan John Glyn mewn cwt.

Rhai munudau ynghynt roedd Mrs Jones wedi edrych drwy'r ffenest a gweld bod y das wair ar dân. Cododd Zachariah Jones o'i wely i weld beth oedd yn bod, ond cysgodd John Glyn drwy'r cyfan! Roedd Pero'r ci, oedd wedi ei gloi mewn beudy yn cyfarth yn ffyrnig. Gwelwyd y ddamwain gan blismon o Gonwy, galwodd yr NFS yn Llandudno, a daeth injan dân ar frys i ddiffodd y fflamau. Yn yr adroddiad canmolwyd PC Ellis o Fae Penrhyn am ei ymdrechion a'r Cynghorydd T. Rhys Evans o Bydew, oedd yn gynghorydd ac yn blismon "sbesial".

Atgofion John Glyn Jones ei hun golygu

 
John Glyn Jones yn darllen yr hanes gwreiddiol yn Y Pentan

Wedi i'r hanes gael ei gyhoeddi yn ‘Y Pentan', Papur Bro yr ardal rhwng Llanrwst a'r Glannau, Llanfairfechan a Hen Golwyn, cysylltodd John Glyn Jones (a oedd yn 87 oed yn 2017, ac yn byw yng Nghyffordd Llandudno â'r papur. Dyma atgofion John ei hun: "Rydw i wedi mwynhau'r hanes yn fawr yn 'Y Pentan' ac am eu canmol am roi disgrifiad mwy cywir ac am ddadlennu ffeithiau na wnaeth ymddangos mewn unrhyw lyfr! Y noson dyngedfennol honno 'r oeddwn yn cysgu yn y siambr a'm rieni yn y llofft uwchben. Daeth Mam i lawr yr ysgol a neffro ar ôl clywed Pero'r ci yn cyfarth. Edrychais drwy'r ffenestr a rhyfeddu o weld iâr y tu allan am 11.30 yh. 'Roedd adain yr awyren wedi taro tas wair a'i rhoi ar dân a dyna sut yr oedd yr iâr yno. Bu clec fawr a dihangodd Mam o dan y bwrdd i ymguddio! Dyna'r adeg y trawodd y gweddill o'r awyren y ddaear."

"Yna clywyd sŵn curo ar y drws. Tudor Roberts ac Aneurin Jones oedd yno ar eu ffordd o chwarae Chwist ac yn ceisio rhybuddio'r teulu. Bu Tudor Roberts yn ddewr iawn yn ceisio gollwng y ceffyl yn rhydd o'r stabl a chafodd lygad ddu am ei drafferth!"

"Pan wawriodd y bore wedyn, gwelsom faint y ddifrod. 'Doedd gan y teulu ond dau degell a thebot, ond ‘doedd dim bwyd o gwbl! 'Roedd y gornel o'r tŷ oedd agosaf at y beudy wedi llosgi. 'Roedd fy nghwningod wedi diflannu ac yn ôl pob tebyg wedi llosgi'n llwyr. Bu Pero'r ci ar goll am rai dyddiau a phan ddychwelodd 'roedd rhan o'i got wedi llosgi!"

Lleoliadau ble disgynnodd y dynion i'r ddaear golygu

Cyhoeddiadau Eraill golygu

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. highbeam.com;[dolen marw] adalwyd 9 Tachwedd 2017.

Cyhoeddwyd yr erthygl hon gan Gareth Pritchard mewn nifer o gyhoeddiadau yn cynnwys Y Pentan, Y Cymro a'r Herald Cymraeg (Daily Post).